bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ecclesiastes 10
Ecclesiastes 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 11 →
1
Gwybed meirw a wnânt i ennaint yr apothecari ddrewi; felly y gwna ychydig ffolineb i ŵr ardderchog oherwydd doethineb ac anrhydedd.
2
Calon y doeth sydd ar ei ddeheulaw; a chalon y ffôl ar ei law aswy.
3
Ie, y ffôl pan rodio ar y ffordd, sydd â'i galon yn pallu, ac y mae yn dywedyd wrth bawb ei fod yn ffôl.
4
Pan gyfodo ysbryd penadur yn dy erbyn, nac ymado â'th le: canys ymostwng a ostega bechodau mawrion.
5
Y mae drwg a welais dan yr haul, cyffelyb i gyfeiliorni sydd yn dyfod oddi gerbron y llywydd:
6
Gosodir ffolineb mewn graddau uchel, a'r cyfoethog a eistedd mewn lle isel.
7
Mi a welais weision ar feirch, a thywysogion yn cerdded fel gweision ar y ddaear.
8
Y sawl a gloddio bwll, a syrth ynddo; a'r neb a wasgaro gae, sarff a'i brath.
9
Y sawl a symudo gerrig, a gaiff ddolur oddi wrthynt; a'r neb a hollto goed, a gaiff niwed oddi wrthynt.
10
Os yr haearn a byla, oni hoga efe y min, rhaid iddo roddi mwy o nerth: eto doethineb sydd ragorol i gyfarwyddo.
11
Os brath sarff heb swyno, nid gwell yw dyn siaradus.
12
Geiriau genau y doeth sydd rasol: ond gwefusau y ffôl a'i difetha ef ei hun.
13
Ffolineb yw dechreuad geiriau ei enau ef: a diweddiad geiriau ei enau sydd anfad ynfydrwydd.
14
Y ffôl hefyd sydd aml ei eiriau: ni ŵyr neb beth a fydd; a phwy a fynega iddo pa beth fydd ar ei ôl ef?
15
Llafur y ffyliaid a flina bawb ohonynt: canys ni fedr efe fyned i'r ddinas.
16
Gwae di y wlad sydd â bachgen yn frenin i ti, a'th dywysogion yn bwyta yn fore.
17
Gwyn dy fyd di y wlad sydd â'th frenin yn fab i bendefigion, a'th dywysogion yn bwyta eu bwyd yn eu hamser, er cryfder, ac nid er meddwdod.
18
Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad; ac wrth laesu y dwylo y gollwng y tŷ ddefni.
19
Arlwyant wledd i chwerthin, a gwin a lawenycha y rhai byw; ond arian sydd yn ateb i bob peth.
20
Na felltithia y brenin yn dy feddwl; ac yn ystafell dy wely na felltithia y cyfoethog: canys ehediad yr awyr a gyhoedda y llais, a pherchen adain a fynega y peth.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12