bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ecclesiastes 4
Ecclesiastes 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 5 →
1
Felly mi a ddychwelais, ac a edrychais ar yr holl orthrymderau sydd dan yr haul: ac wele ddagrau y rhai gorthrymedig heb neb i'w cysuro; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu, a hwythau heb neb i'w cysuro.
2
A mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw, yn fwy na'r byw y rhai sydd yn fyw eto.
3
Gwell na'r ddau yw y neb ni bu erioed, yr hwn ni welodd y gwaith blin sydd dan haul.
4
A mi a welais fod pob llafur, a phob uniondeb gwaith dyn, yn peri iddo genfigen gan ei gymydog. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd.
5
Y ffôl a wasg ei ddwylo ynghyd, ac a fwyty ei gnawd ei hun.
6
Gwell yw llonaid llaw trwy lonyddwch, na llonaid dwy law trwy flinder a gorthrymder ysbryd.
7
Yna mi a droais, ac a welais wagedd dan yr haul.
8
Y mae un yn unig, ac heb ail; ie, nid oes iddo na mab na brawd; ac eto nid oes diwedd ar ei lafur oll: ie, ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth; ni ddywed efe, I bwy yr ydwyf yn llafurio, ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hyfrydwch? Hyn hefyd sydd wagedd, a dyma drafferth flin.
9
Gwell yw dau nag un, o achos bod iddynt wobr da am eu llafur.
10
Canys os syrthiant, y naill a gyfyd y llall: ond gwae yr unig; canys pan syrthio efe, nid oes ail i'w gyfodi.
11
Hefyd os dau a gydorweddant, hwy a ymgynhesant; ond yr unig, pa fodd y cynhesa efe?
12
Ac os cryfach fydd un nag ef, dau a'i gwrthwynebant yntau; a rhaff deircainc ni thorrir ar frys.
13
Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hen ac ynfyd, yr hwn ni fedr gymryd rhybudd mwyach:
14
Canys y naill sydd yn dyfod allan o'r carchardy i deyrnasu, a'r llall wedi ei eni yn ei frenhiniaeth, yn myned yn dlawd.
15
Mi a welais y rhai byw oll y rhai sydd yn rhodio dan yr haul, gyda'r ail fab yr hwn a saif yn ei le ef.
16
Nid oes diben ar yr holl bobl, sef ar y rhai oll a fu o'u blaen hwynt; a'r rhai a ddêl ar ôl, ni lawenychant ynddo: gwagedd yn ddiau a blinder ysbryd yw hyn hefyd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12