bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Luke 1
Luke 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
1
Yn gymaint â darfod i lawer gymryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddi‐amau yn ein plith,
2
Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o'r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair:
3
Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o'r dechreuad, ysgrifennu mewn trefn atat, O ardderchocaf Theoffilus,
4
Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y'th ddysgwyd ynddynt.
5
Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a'i enw Sachareias, o ddyddgylch Abeia: a'i wraig oedd o ferched Aaron, a'i henw Elisabeth.
6
Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau'r Arglwydd yn ddiargyhoedd.
7
Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn amhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.
8
A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef,
9
Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd.
10
A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl‐darthiad.
11
Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o'r tu deau i allor yr arogl‐darth.
12
A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno.
13
Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a'th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan.
14
A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.
15
Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o'r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam.
16
A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw.
17
Ac efe a â o'i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias, i droi calonnau'r tadau at y plant, a'r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i'r Arglwydd bobl barod.
18
A dywedodd Sachareias wrth yr angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys hynafgwr wyf fi, a'm gwraig hefyd mewn gwth o oedran.
19
A'r angel gan ateb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegi i ti'r newyddion da hyn.
20
Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i'm geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser.
21
Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias: a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml.
22
A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml: ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt; ac efe a arhosodd yn fud.
23
A bu, cyn gynted ag y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef, fyned ohono i'w dŷ ei hun.
24
Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd,
25
Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf, i dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.
26
Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw, i ddinas yng Ngalilea a'i henw Nasareth,
27
At forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a'i enw Joseff, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair.
28
A'r angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyda thi: bendigaid wyt ymhlith gwragedd.
29
A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn.
30
A dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafr gyda Duw.
31
Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef IESU.
32
Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd.
33
Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd.
34
A Mair a ddywedodd wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i ŵr?
35
A'r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a'th gysgoda di: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti, a elwir yn Fab Duw.
36
Ac wele, Elisabeth dy gares, y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw'r chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn amhlantadwy.
37
Canys gyda Duw ni bydd dim yn amhosibl.
38
A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di. A'r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi.
39
A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i'r mynydd‐dir ar frys, i ddinas o Jwda;
40
Ac a aeth i mewn i dŷ Sachareias, ac a gyfarchodd well i Elisabeth.
41
A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i'r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o'r Ysbryd Glân.
42
A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di.
43
Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi?
44
Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i'm clustiau, y plentyn a lamodd o lawenydd yn fy nghroth.
45
A bendigedig yw'r hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o'r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.
46
A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau'r Arglwydd,
47
A'm hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr.
48
Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a'm geilw yn wynfydedig.
49
Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef.
50
A'i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a'i hofnant ef.
51
Efe a wnaeth gadernid â'i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon.
52
Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o'u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd.
53
Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion.
54
Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd;
55
Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a'i had, yn dragywydd.
56
A Mair a arhosodd gyda hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i'w thŷ ei hun.
57
A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab.
58
A'i chymdogion a'i chenedl a glybu fawrhau o'r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi.
59
A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a'i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad.
60
A'i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef.
61
Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o'th genedl a elwir ar yr enw hwn.
62
A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef.
63
Yntau a alwodd am argrafflech, ac a ysgrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll.
64
Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.
65
A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd‐dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll.
66
A phawb a'r a'u clywsant, a'u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw'r Arglwydd oedd gydag ef.
67
A'i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o'r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd,
68
Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i'w bobl;
69
Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr;
70
Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd:
71
Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o'n caseion;
72
I gwblhau'r drugaredd â'n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod:
73
Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni,
74
Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn,
75
Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd.
76
A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i'r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef;
77
I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i'w bobl, trwy faddeuant o'u pechodau,
78
Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r uchelder,
79
I lewyrchu i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
80
A'r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i'r Israel.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24