bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Luke 14
Luke 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 15 →
1
Bu hefyd, pan ddaeth efe i dŷ un o benaethiaid y Phariseaid ar y Saboth, i fwyta bara, iddynt hwythau ei wylied ef.
2
Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o'r dropsi.
3
A'r Iesu gan ateb a lefarodd wrth y cyfreithwyr a'r Phariseaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Saboth?
4
A thewi a wnaethant. Ac efe a'i cymerodd ato, ac a'i hiachaodd ef, ac a'i gollyngodd ymaith;
5
Ac a atebodd iddynt hwythau, ac a ddywedodd, Asyn neu ych pa un ohonoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd nis tyn ef allan ar y dydd Saboth?
6
Ac ni allent roi ateb yn ei erbyn ef am y pethau hyn.
7
Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion ddameg, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf; gan ddywedyd wrthynt,
8
Pan y'th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle uchaf, rhag bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo;
9
Ac i hwn a'th wahoddodd di ac yntau ddyfod, a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn; ac yna dechrau ohonot ti trwy gywilydd gymryd y lle isaf.
10
Eithr pan y'th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf; fel pan ddelo'r hwn a'th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cyfaill, eistedd yn uwch i fyny: yna y bydd i ti glod yng ngŵydd y rhai a eisteddant gyda thi ar y bwrdd.
11
Canys pob un a'r a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
12
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a'i gwahoddasai ef, Pan wnelych ginio neu swper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th geraint, na'th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti.
13
Eithr pan wnelych wledd, galw'r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:
14
A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.
15
A phan glywodd rhyw un o'r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw.
16
Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw ŵr a wnaeth swper mawr, ac a wahoddodd lawer:
17
Ac a ddanfonodd ei was bryd swper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod.
18
A hwy oll a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae'n rhaid i mi fyned a'i weled: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol.
19
Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf yn myned i'w profi hwynt: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol.
20
Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod.
21
A'r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gŵr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion.
22
A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist; ac eto y mae lle.
23
A'r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i'r priffyrdd a'r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.
24
Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o'r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o'm swper i.
25
A llawer o bobl a gydgerddodd ag ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt,
26
Os daw neb ataf fi, ac ni chasao ei dad, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ie, a'i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.
27
A phwy bynnag ni ddyco ei groes, a dyfod ar fy ôl i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.
28
Canys pwy ohonoch chwi â'i fryd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw'r draul, a oes ganddo a'i gorffenno?
29
Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orffen, ddechrau o bawb a'i gwelant ei watwar ef,
30
Gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orffen.
31
Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag ugain mil?
32
Ac os amgen, tra fyddo efe ymhell oddi wrtho, efe a enfyn genadwri, ac a ddeisyf amodau heddwch.
33
Felly hefyd, pob un ohonoch chwithau nid ymwrthodo â chymaint oll ag a feddo, ni all fod yn ddisgybl i mi.
34
Da yw'r halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef?
35
Nid yw efe gymwys nac i'r tir, nac i'r domen; ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24