bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Luke 15
Luke 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
1
Ac yr oedd yr holl bublicanod a'r pechaduriaid yn nesáu ato ef, i wrando arno.
2
A'r Phariseaid a'r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt.
3
Ac efe a adroddodd wrthynt y ddameg hon, gan ddywedyd,
4
Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un ohonynt, nid yw'n gadael y namyn un pum ugain yn yr anialwch, ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?
5
Ac wedi iddo ei chael, efe a'i dyd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen.
6
A phan ddêl adref, efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a'i gymdogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyda mi; canys cefais fy nafad a gollasid.
7
Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.
8
Neu pa wraig a chanddi ddeg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni olau gannwyll, ac ysgubo'r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo ef?
9
Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a'i chymdogesau, gan ddywedyd, Cydlawenhewch â mi; canys cefais y dryll a gollaswn.
10
Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yng ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao.
11
Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab:
12
A'r ieuangaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.
13
Ac ar ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymerth ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgarodd ei dda, gan fyw yn afradlon.
14
Ac wedi iddo dreulio'r cwbl, y cododd newyn mawr trwy'r wlad honno; ac yntau a ddechreuodd fod mewn eisiau.
15
Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a'i hanfonodd ef i'w feysydd i borthi moch.
16
Ac efe a chwenychai lenwi ei fol â'r cibau a fwytâi'r moch; ac ni roddodd neb iddo.
17
A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o'r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a'u gweddill o fara, a minnau yn marw o newyn?
18
Mi a godaf, ac a af at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau;
19
Ac mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fab i ti: gwna fi fel un o'th weision cyflog.
20
Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe eto ymhell oddi wrtho, ei dad a'i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd.
21
A'r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng i'm galw yn fab i ti.
22
A'r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch allan y wisg orau, a gwisgwch amdano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed:
23
A dygwch y llo pasgedig, a lleddwch ef; a bwytawn, a byddwn lawen.
24
Canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen.
25
Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesáu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio.
26
Ac wedi iddo alw un o'r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hyn.
27
Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth; a'th dad a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach.
28
Ond efe a ddigiodd, ac nid âi i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd ag ef.
29
Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dy orchymyn; ac ni roddaist fyn erioed i mi, i fod yn llawen gyda'm cyfeillion:
30
Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywyd di gyda phuteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig.
31
Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyda mi, a'r eiddof fi oll ydynt eiddot ti.
32
Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu: oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24