bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Luke 21
Luke 21
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
1
Ac wedi iddo edrych i fyny, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r drysorfa.
2
Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.
3
Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll:
4
Canys y rhai hyn oll o'r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o'i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.
5
Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml, ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd,
6
Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw'r dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a'r nis datodir.
7
A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo'r pethau hyn ar ddyfod?
8
Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; a'r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hôl hwynt.
9
A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man.
10
Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:
11
A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o'r nef.
12
Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a'ch erlidiant, gan eich traddodi i'r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i.
13
Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth.
14
Am hynny rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch:
15
Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na'i gwrthsefyll.
16
A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai ohonoch y parant farwolaeth.
17
A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i.
18
Ond ni chyll blewyn o'ch pen chwi.
19
Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.
20
A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd‐dra hi wedi nesáu.
21
Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoant i'r mynyddoedd; a'r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant; a'r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi.
22
Canys dyddiau dial yw'r rhai hyn, i gyflawni'r holl bethau a ysgrifennwyd.
23
Eithr gwae'r rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn.
24
A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd.
25
A bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a'r môr a'r tonnau yn rhuo;
26
A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
27
Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr.
28
A phan ddechreuo'r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesáu.
29
Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a'r holl brennau;
30
Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch ac a wyddoch ohonoch eich hun, fod yr haf yn agos.
31
Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.
32
Yn wir meddaf i chwi, Nid â'r oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.
33
Y nef a'r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
34
Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth;
35
Canys efe a ddaw, fel magl, ar warthaf pawb oll a'r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear.
36
Gwyliwch gan hynny a gweddïwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll gerbron Mab y dyn.
37
A'r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a'r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd.
38
A'r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i'w glywed ef.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24