bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Luke 20
Luke 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 21 →
1
A Digwyddodd ar un o'r dyddiau hynny, ac efe yn dysgu'r bobl yn y deml, ac yn pregethu'r efengyl, ddyfod arno yr archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion, gyda'r henuriaid,
2
A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw'r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon?
3
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi:
4
Bedydd Ioan, ai o'r nef yr ydoedd, ai o ddynion?
5
Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef?
6
Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a'n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd.
7
A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le.
8
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
9
Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a'i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser.
10
Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i hanfonasant ymaith yn waglaw.
11
Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a amharchasant hwnnw hefyd, ac a'i hanfonasant ymaith yn waglaw.
12
Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a'i bwriasant ef allan.
13
Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy annwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef.
14
Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw'r etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo'r etifeddiaeth yn eiddom ni.
15
A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?
16
Efe a ddaw, ac a ddifetha'r llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na ato Duw.
17
Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifennwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl?
18
Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef.
19
A'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddameg hon.
20
A hwy a'i gwyliasant ef, ac a yrasant gynllwynwyr, y rhai a gymerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i'w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw.
21
A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd.
22
Ai cyfreithlon i ni roi teyrnged i Gesar, ai nid yw?
23
Ac efe a ddeallodd eu cyfrwystra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi?
24
Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraff pwy sydd arni? A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cesar.
25
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a'r eiddo Duw i Dduw.
26
Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef gerbron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant â sôn.
27
A rhai o'r Sadwceaid (y rhai sydd yn gwadu nad oes atgyfodiad,) a ddaethant ato ef, ac a ofynasant iddo,
28
Gan ddywedyd, Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw ohono yn ddi‐blant, ar gymryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi had i'w frawd.
29
Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymerodd wraig, ac a fu farw yn ddi‐blant.
30
A'r ail a gymerth y wraig, ac a fu farw yn ddi‐blant.
31
A'r trydydd a'i cymerth hi; ac yr un ffunud y saith hefyd: ac ni adawsant blant, ac a fuont feirw.
32
Ac yn ddiwethaf oll bu farw'r wraig hefyd.
33
Yn yr atgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy un ohonynt yw hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.
34
A'r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Plant y byd hwn sydd yn gwreica, ac yn gwra:
35
Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnnw, a'r atgyfodiad oddi wrth y meirw, nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra:
36
Canys ni allant farw mwy: oblegid cyd‐stad ydynt â'r angylion: a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr atgyfodiad.
37
Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob.
38
Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.
39
Yna rhai o'r ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant, Athro, da y dywedaist.
40
Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef.
41
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod Crist yn fab i Ddafydd?
42
Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Salmau, Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,
43
Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed di.
44
Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?
45
Ac a'r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
46
Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd;
47
Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24