bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Luke 18
Luke 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
1
Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio;
2
Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn.
3
Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr.
4
Ac efe nis gwnâi dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn;
5
Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a'i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a'm syfrdanu i.
6
A'r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn.
7
Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt?
8
Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear?
9
Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill:
10
Dau ŵr a aeth i fyny i'r deml i weddïo; un yn Pharisead, a'r llall yn bublican.
11
Y Pharisead o'i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith.
12
Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymu cymaint oll ag a feddaf.
13
A'r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua'r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur.
14
Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i'w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy na'r llall: canys pob un a'r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a'r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
15
A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r disgyblion pan welsant, a'u ceryddasant hwy.
16
Eithr yr Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Gadewch i'r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.
17
Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.
18
A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol?
19
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y'm gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw.
20
Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a'th fam.
21
Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o'm hieuenctid.
22
A'r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.
23
Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn.
24
A'r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anodd yr â'r rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!
25
Canys haws yw i gamel fyned trwy grau'r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.
26
A'r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig?
27
Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd amhosibl gyda dynion, sydd bosibl gyda Duw.
28
A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di.
29
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,
30
A'r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.
31
Ac efe a gymerodd y deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a chyflawnir pob peth a'r sydd yn ysgrifenedig trwy'r proffwydi am Fab y dyn.
32
Canys efe a draddodir i'r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno:
33
Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a'r trydydd dydd efe a atgyfyd.
34
A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.
35
A bu, ac efe yn nesáu at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardota:
36
A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn.
37
A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nasareth oedd yn myned heibio.
38
Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.
39
A'r rhai oedd yn myned o'r blaen a'i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.
40
A'r Iesu a safodd, ac a orchmynnodd ei ddwyn ef ato. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynnodd iddo,
41
Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael ohonof fy ngolwg.
42
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymer dy olwg: dy ffydd a'th iachaodd.
43
Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A'r holl bobl, pan welsant, a roesant foliant i Dduw.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24