bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Luke 2
Luke 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 3 →
1
Bu hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cesar, i drethu'r holl fyd.
2
(Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.)
3
A phawb a aethant i'w trethu, bob un i'w ddinas ei hun.
4
A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea, o ddinas Nasareth, i Jwdea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd),
5
I'w drethu gyda Mair, yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog.
6
A bu, tra oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni.
7
A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig, ac a'i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a'i dododd ef yn y preseb; am nad oedd iddynt le yn y llety.
8
Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd liw nos.
9
Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o'u hamgylch: ac ofni yn ddirfawr a wnaethant.
10
A'r angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch: canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl:
11
Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crist yr Arglwydd.
12
A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a'i ddodi yn y preseb.
13
Ac yn ddisymwth yr oedd gyda'r angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd,
14
Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da.
15
A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i'r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni.
16
A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Mair a Joseff, a'r dyn bach yn gorwedd yn y preseb.
17
A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn.
18
A phawb a'r a'i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt.
19
Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon.
20
A'r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt.
21
A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef IESU, yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddŵyn ef yn y groth.
22
Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a'i dygasant ef i Jerwsalem, i'w gyflwyno i'r Arglwydd;
23
(Fel yr ysgrifennwyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwryw cyntaf‐anedig a elwir yn sanctaidd i'r Arglwydd;)
24
Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn a ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod, neu ddau gyw colomen.
25
Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerwsalem, a'i enw Simeon; a'r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a'r Ysbryd Glân oedd arno.
26
Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd.
27
Ac efe a ddaeth trwy'r ysbryd i'r deml: a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu, i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfraith;
28
Yna efe a'i cymerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,
29
Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ôl dy air:
30
Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth,
31
Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd;
32
Goleuni i oleuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel.
33
Ac yr oedd Joseff a'i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd amdano ef.
34
A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn;
35
(A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau.
36
Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o'i morwyndod;
37
Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid âi allan o'r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos.
38
A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem.
39
Ac wedi iddynt orffen pob peth yn ôl deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i'w dinas eu hun Nasareth.
40
A'r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhaodd yn yr ysbryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.
41
A'i rieni ef a aent i Jerwsalem bob blwyddyn ar ŵyl y pasg.
42
A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, hwynt‐hwy a aethant i fyny i Jerwsalem yn ôl defod yr ŵyl.
43
Ac wedi gorffen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem; ac ni wyddai Joseff a'i fam ef:
44
Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a'i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a'u cydnabod.
45
A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef.
46
A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.
47
A synnu a wnaeth ar bawb a'r a'i clywsant ef, oherwydd ei ddeall ef a'i atebion.
48
A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A'i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a'th geisiasom di.
49
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i'm Tad?
50
A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt.
51
Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a ddaeth i Nasareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A'i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.
52
A'r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24