bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Luke 5
Luke 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 6 →
1
Bu hefyd, a'r bobl yn pwyso ato i wrando gair Duw, yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret;
2
Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a'r pysgodwyr a aethent allan ohonynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau.
3
Ac efe a aeth i mewn i un o'r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodd y bobloedd allan o'r llong.
4
A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i'r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa.
5
A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd.
6
Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a'u rhwyd hwynt a rwygodd.
7
A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion, oedd yn y llong arall, i ddyfod i'w cynorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant; a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi.
8
A Simon Pedr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau'r Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd.
9
Oblegid braw a ddaethai arno ef, a'r rhai oll oedd gydag ef, oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy;
10
A'r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion.
11
Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dilynasant ef.
12
A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o'r gwahanglwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhau.
13
Yntau a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho.
14
Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrwm dros dy lanhad, fel y gorchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
15
A'r gair amdano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i'w wrando ef, ac i'w hiacháu ganddo o'u clefydau.
16
Ac yr oedd efe yn cilio o'r neilltu yn y diffeithwch, ac yn gweddïo.
17
A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno, y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea, a Jwdea, a Jerwsalem: ac yr oedd gallu'r Arglwydd i'w hiacháu hwynt.
18
Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o'r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a'i ddodi ger ei fron ef.
19
A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a'i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy'r priddlechau, yn y canol gerbron yr Iesu.
20
A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.
21
A'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig?
22
A'r Iesu, yn gwybod eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych?
23
Pa un hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?
24
Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o'r parlys,) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i'th dŷ.
25
Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.
26
A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddiw.
27
Ac ar ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican, a'i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa; ac efe a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.
28
Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fyny, ac a'i dilynodd ef.
29
A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o bublicanod ac eraill, yn eistedd gyda hwynt ar y bwrdd.
30
Eithr eu hysgrifenyddion a'u Phariseaid hwynt a furmurasant yn erbyn ei ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid?
31
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg; ond i'r rhai cleifion.
32
Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
33
A hwy a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddïau, a'r un modd yr eiddo y Phariseaid; ond yr eiddot ti yn bwyta ac yn yfed?
34
Yntau a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo'r priodasfab gyda hwynt?
35
Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt: ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.
36
Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn: os amgen, y mae'r newydd yn gwneuthur rhwygiad, a'r llain o'r newydd ni chytuna â'r hen.
37
Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia'r costrelau, ac efe a red allan, a'r costrelau a gollir.
38
Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion; a'r ddau a gedwir.
39
Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed gwin hen, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw'r hen.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24