bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Luke 8
Luke 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
1
A bu wedi hynny, iddo fyned trwy bob dinas a thref, gan bregethu, ac efengylu teyrnas Dduw: a'r deuddeg oedd gydag ef;
2
A gwragedd rai, a'r a iachesid oddi wrth ysbrydion drwg a gwendid; Mair yr hon a elwid Magdalen, o'r hon yr aethai saith gythraul allan;
3
Joanna, gwraig Chusa goruchwyliwr Herod, a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o'r pethau oedd ganddynt.
4
Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghyd, a chyrchu ato o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddameg:
5
Yr heuwr a aeth allan i hau ei had: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd; ac ehediaid y nef a'i bwytaodd.
6
A pheth arall a syrthiodd ar y graig; a phan eginodd, y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr.
7
A pheth arall a syrthiodd ymysg drain; a'r drain a gyd‐dyfasant, ac a'i tagasant ef.
8
A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.
9
A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddameg oedd hon?
10
Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant.
11
A dyma'r ddameg: Yr had yw gair Duw.
12
A'r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw'r rhai sydd yn gwrando, wedi hynny y mae'r diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair o'u calon hwynt, rhag iddynt gredu, a bod yn gadwedig.
13
A'r rhai ar y graig, yw'r rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.
14
A'r hwn a syrthiodd ymysg drain, yw'r rhai a wrandawsant; ac wedi iddynt fyned ymaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd.
15
A'r hwn ar y tir da, yw'r rhai hyn, y rhai â chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrando'r gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.
16
Nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei dodi dan wely; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren, fel y caffo'r rhai a ddêl i mewn weled y goleuni.
17
Canys nid oes dim dirgel, a'r ni bydd amlwg; na dim cuddiedig, a'r nis gwybyddir, ac na ddaw i'r golau.
18
Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: canys pwy bynnag y mae ganddo, y rhoddir iddo; a'r neb nid oes ganddo, ie, yr hyn y mae'n tybied ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.
19
Daeth ato hefyd ei fam a'i frodyr; ac ni allent ddyfod hyd ato gan y dorf.
20
A mynegwyd iddo, gan rai, yn dywedyd, Y mae dy fam a'th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled.
21
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy mam i a'm brodyr i yw'r rhai hyn sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.
22
A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a'i ddisgyblion: a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i'r tu hwnt i'r llyn. A hwy a gychwynasant.
23
Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chawod o wynt a ddisgynnodd ar y llyn; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd.
24
A hwy a aethant ato, ac a'i deffroesant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu amdanom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a'r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel.
25
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni, a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i'r gwyntoedd ac i'r dwfr hefyd, a hwythau yn ufuddhau iddo?
26
A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o'r tu arall, ar gyfer Galilea.
27
Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu ag ef ryw ŵr o'r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau.
28
Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu, Fab Duw goruchaf? yr wyf yn atolwg i ti na'm poenech.
29
(Canys efe a orchmynasai i'r ysbryd aflan ddyfod allan o'r dyn. Canys llawer o amserau y cipiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau; ac wedi dryllio'r rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythraul i'r diffeithwch.)
30
A'r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef.
31
A hwy a ddeisyfasant arno, na orchmynnai iddynt fyned i'r dyfnder.
32
Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd: a hwynt‐hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i'r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt.
33
A'r cythreuliaid a aethant allan o'r dyn, ac a aethant i mewn i'r moch: a'r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i'r llyn, ac a foddwyd.
34
A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad.
35
A hwy a aethant allan i weled y peth a wnaethid; ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn, o'r hwn yr aethai'r cythreuliaid allan, yn ei ddillad, a'i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnasant.
36
A'r rhai a welsent, a fynegasant hefyd iddynt pa fodd yr iachasid y cythreulig.
37
A'r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt; am eu bod mewn ofn mawr. Ac efe wedi myned i'r llong, a ddychwelodd.
38
A'r gŵr o'r hwn yr aethai'r cythreuliaid allan, a ddeisyfodd arno gael bod gydag ef: eithr yr Iesu a'i danfonodd ef ymaith, gan ddywedyd,
39
Dychwel i'th dŷ, a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth, dan bregethu trwy gwbl o'r ddinas, faint a wnaethai'r Iesu iddo.
40
A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o'r bobl ef: canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano ef.
41
Ac wele, daeth gŵr a'i enw Jairus; ac efe oedd lywodraethwr y synagog: ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a atolygodd iddo ddyfod i'w dŷ ef:
42
Oherwydd yr oedd iddo ferch unig‐anedig, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw. Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a'i gwasgent ef.
43
A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar ffisigwyr ei holl fywyd, ac nis gallai gael gan neb ei hiacháu,
44
A ddaeth o'r tu cefn, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef: ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi.
45
A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyffyrddodd â mi? Ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Pedr, a'r rhai oedd gydag ef, O Feistr, y mae'r bobloedd yn dy wasgu, ac yn dy flino; ac a ddywedi di, Pwy yw a gyffyrddodd â mi?
46
A'r Iesu a ddywedodd, Rhyw un a gyffyrddodd â mi: canys mi a wn fyned rhinwedd allan ohonof.
47
A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo, yng ngŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd.
48
Yntau a ddywedodd wrthi, Cymer gysur, ferch; dy ffydd a'th iachaodd: dos mewn tangnefedd.
49
Ac efe eto yn llefaru, daeth un o dŷ llywodraethwr y synagog, gan ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch: na phoena mo'r Athro.
50
A'r Iesu pan glybu hyn, a'i hatebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna: cred yn unig, a hi a iacheir.
51
Ac wedi ei fyned ef i'r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan, a thad yr eneth a'i mam.
52
Ac wylo a wnaethant oll, a chwynfan amdani. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: nid marw hi, eithr cysgu y mae.
53
A hwy a'i gwatwarasant ef, am iddynt wybod ei marw hi.
54
Ac efe a'u bwriodd hwynt oll allan, ac a'i cymerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd, gan ddywedyd, Herlodes, cyfod.
55
A'i hysbryd hi a ddaeth drachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd: ac efe a orchmynnodd roi bwyd iddi.
56
A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi: ac efe a orchmynnodd iddynt, na ddywedent i neb y peth a wnaethid.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24