bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Judges 12
Judges 12
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 13 →
1
Galwodd gwu375?r Effraim eu milwyr ynghyd a chroesi i Saffon, a dweud wrth Jefftha, "Pam yr aethost i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid heb ein gwahodd ni i fynd gyda thi? Fe losgwn dy du375? am dy ben."
2
Dywedodd Jefftha, "Yr oedd gennyf fi a'm pobl achos chwerw yn erbyn yr Ammoniaid, ond pe byddwn wedi galw arnoch chwi, ni fyddech wedi fy achub o'u llaw.
3
Pan welais na fyddech yn fy achub, mentrais fynd yn erbyn yr Ammoniaid; ac fe roddodd yr ARGLWYDD hwy yn fy llaw. Pam yr ydych wedi dod ataf heddiw i ymladd mi?"
4
Yna casglodd Jefftha holl filwyr Gilead at ei gilydd ac ymladd ag Effraim; a threchodd milwyr Gilead bobl Effraim, am iddynt ddweud, "Ffedigion o Effraim ydych chwi, bobl Gilead, ymysg pobl Effraim a Manasse."
5
Meddiannodd Gilead y rhydau dros yr Iorddonen i gyfeiriad Effraim, a phan fyddai ffoadur o Effraim yn crefu am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn iddo, "Ai un o Effraim wyt ti?" Pe byddai hwnnw'n ateb, "Nage",
6
yna byddent yn dweud wrtho, "Dywed, 'Shibboleth'." Byddai yntau'n dweud, "Sibboleth", gan na fedrai ynganu'n gywir. Ac wedi iddynt ei ddal, byddent yn ei ladd ger rhydau'r Iorddonen. Bu farw dwy fil a deugain o wu375?r Effraim y pryd hwnnw.
7
Bu Jefftha o Gilead yn farnwr ar Israel am chwe blynedd; a phan fu farw, claddwyd ef yn ei dref yn Gilead.
8
Ar ei l ef bu Ibsan o Fethlehem yn farnwr ar Israel.
9
Yr oedd ganddo ddeg ar hugain o feibion a deg ar hugain o ferched. Rhoddodd ei ferched ei hun mewn priodas i rai o'r tu allan, a chyrchodd ddeg ar hugain o ferched o'r tu allan yn wragedd i'w feibion. Bu'n farnwr ar Israel am saith mlynedd.
10
Pan fu Ibsan farw, claddwyd ef ym Methlehem.
11
Ar ei l ef bu Elon o Sabulon yn farnwr ar Israel am ddeng mlynedd.
12
Pan fu Elon o Sabulon farw, claddwyd ef yn Ajalon yn nhir Sabulon.
13
Ar ei l ef bu Abdon fab Hilel o Pirathon yn farnwr ar Israel.
14
Yr oedd ganddo ef ddeugain mab a deg ar hugain o wyrion yn marchogaeth ar ddeg asyn a thrigain. Bu'n farnwr ar Israel am wyth mlynedd.
15
Pan fu Abdon fab Hilel o Pirathon farw, claddwyd ef yn Pirathon yn nhir Effraim, ym mynydd yr Amaleciaid.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21