bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Judges 7
Judges 7
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 8 →
1
Cododd Jerwbbaal, sef Gideon, a'r holl bobl oedd gydag ef yn gynnar a gwersyllu ger ffynnon Harod. Yr oedd gwersyll Midian yn y dyffryn i'r gogledd o fryn More.
2
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, "Y mae gennyt ormod o bobl gyda thi imi roi Midian yn eu llaw, rhag i Israel ymfalcho yn f'erbyn a dweud, 'Fy llaw fy hun sydd wedi f'achub.'
3
Felly, cyhoedda yng nghlyw'r bobl, 'Pwy bynnag sydd mewn ofn a dychryn, aed adref.'" Profodd Gideon hwy, a dychwelodd dwy fil ar hugain o'r bobl, gan adael deng mil ar l.
4
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, "Y mae gormod o bobl eto. Dos hwy i lawr at y du373?r, a phrofaf hwy iti yno. Pan ddywedaf wrthyt, 'Y mae hwn i fynd gyda thi', bydd hwnnw'n mynd gyda thi; a phan ddywedaf, 'Nid yw hwn i fynd gyda thi', ni fydd yn mynd."
5
Aeth Gideon 'r bobl i lawr at y du373?r, a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Pob un sy'n llepian y du373?r 'i dafod fel y bydd ci'n llepian, gosod hwnnw ar wahn i'r rhai sy'n penlinio ac yn yfed trwy ddod 'u llaw at eu genau."
6
Tri chant oedd nifer y rhai oedd yn llepian, a phawb arall yn penlinio i yfed du373?r.
7
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, "Trwy'r tri chant sy'n llepian y byddaf yn eich achub, ac yn rhoi Midian yn dy law; caiff pawb arall fynd adref."
8
Cymerodd Gideon biserau'r bobl a'r utgyrn oedd ganddynt, ac anfon yr Israeliaid i gyd adref, ond cadw'r tri chant. Yr oedd gwersyll Midian islaw iddo yn y dyffryn.
9
Y noson honno dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, "Cod, dos i lawr i'r gwersyll, oherwydd yr wyf yn ei roi yn dy law.
10
Os oes arnat ofn mynd, dos Pura dy lanc gyda thi at y gwersyll,
11
a gwrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud; yna fe gryfheir dy law wedi iti fod i lawr yn y gwersyll." Felly fe aeth ef a Pura ei lanc at ymyl y milwyr arfog yn y gwersyll.
12
Yr oedd y Midianiaid a'r Amaleciaid a'r holl ddwyreinwyr wedi disgyn ar y dyffryn fel haid o locustiaid; yr oedd eu camelod mor ddirifedi thywod glan y mr.
13
Pan gyrhaeddodd Gideon, dyna lle'r oedd rhyw ddyn yn adrodd breuddwyd wrth ei gyfaill ac yn dweud, "Dyma'r freuddwyd a gefais. Yr oeddwn yn gweld torth o fara haidd yn rhowlio trwy wersyll Midian, a phan ddi at babell, yr oedd yn ei tharo a'i thaflu a'i dymchwel nes bod y babell yn disgyn."
14
Atebodd ei gyfaill, "Nid yw hyn yn ddim amgen na chleddyf Gideon fab Joas yr Israeliad; y mae Duw wedi rhoi Midian a'r holl wersyll yn ei law."
15
Pan glywodd Gideon adrodd y freuddwyd a'i dehongli, ymgrymodd i'r llawr; yna dychwelodd at wersyll Israel a dweud, "Codwch, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi gwersyll Midian yn eich llaw."
16
Rhannodd y tri chant yn dair mintai, a rhoi yn eu llaw utgyrn, a phiserau gwag gyda ffaglau o'u mewn. Dywedodd wrthynt, "Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un fath.
17
Pan ddof fi at gwr y gwersyll, yna gwnewch yr un fath mi.
18
Pan fyddaf fi a phawb sydd gyda mi yn seinio'r utgorn, seiniwch chwithau eich utgyrn o bob tu i'r gwersyll, a dweud, 'Yr ARGLWYDD a Gideon!'"
19
Cyrhaeddodd Gideon a'r cant o ddynion oedd gydag ef at gwr y gwersyll ar ddechrau'r wyliadwriaeth ganol, a'r gwylwyr newydd eu gosod. Seiniasant yr utgyrn, a dryllio'r piserau oedd yn eu llaw.
20
A dyma'r tair mintai yn seinio'r utgyrn ac yn dryllio'r piserau, gan ddal y ffaglau yn eu llaw chwith a'r utgyrn i'w seinio yn eu llaw dde; ac yr oeddent yn gweiddi, "Cleddyf yr ARGLWYDD a Gideon!"
21
Tra oedd pob un yn sefyll yn ei le o gwmpas y gwersyll, rhuthrodd yr holl wersyll o gwmpas gan weiddi a ffoi.
22
Tra oedd y tri chant yn seinio'r utgyrn, trodd yr ARGLWYDD gleddyf pob un yn y gwersyll yn erbyn ei gymydog, a ffoesant cyn belled Beth-sitta yn Serera, ac i gyffiniau Abel-mehola a Tabbath.
23
Galwyd ar yr Israeliaid o Nafftali, Aser a Manasse gyfan, a buont yn erlid ar l y Midianiaid.
24
Yr oedd Gideon wedi anfon negeswyr drwy holl ucheldir Effraim a dweud, "Dewch i lawr yn erbyn Midian a chymryd rhydau'r Iorddonen o'u blaen hyd Beth-bara." Casglwyd holl wu375?r Effraim a daliasant rydau'r Iorddonen cyn belled Beth-bara.
25
Daliasant Oreb a Seeb, dau arweinydd Midian, a lladd Oreb wrth graig Oreb, a Seeb wrth winwryf Seeb; yna, wedi iddynt erlid Midian, daethant phen Oreb a phen Seeb at Gideon y tu hwnt i'r Iorddonen.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21