bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Judges 20
Judges 20
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 21 →
1
Daeth Israel gyfan allan fel un, o Dan hyd Beerseba a thir Gilead, a galw cynulleidfa Israel at yr ARGLWYDD i Mispa.
2
Ymgasglodd arweinwyr byddin holl lwythau Israel yn gynulliad o bobl yr ARGLWYDD, pedwar can mil o wu375?r traed yn dwyn cleddyf.
3
Clywodd y Benjaminiaid fod yr Israeliaid wedi mynd i fyny i Mispa. Gofynnodd yr Israeliaid, "Dywedwch sut y dig-wyddodd y fath gamwri."
4
Atebodd y Lefiad, sef gu373?r y ddynes a lofruddiwyd, "Yr oeddwn i a'm gordderch wedi mynd i Gibea Benjamin i letya;
5
yna cododd dinasyddion Gibea yn f'erbyn ac amgylchynu'r tu375? liw nos, gan fwriadu fy lladd; treisiwyd fy ngordderch, a bu hi farw o'r herwydd.
6
Cymerais innau hi a'i thorri'n ddarnau a'u hanfon drwy bob rhan o diriogaeth Israel, oherwydd y mae'r treiswyr hyn wedi gwneud anlladrwydd ffiaidd yn Israel.
7
Chwi oll, bobl Israel, mynegwch eich barn a'ch cyngor yma'n awr."
8
Cododd yr holl bobl fel un gu373?r a dweud, "Ni ddychwel neb ohonom i'w babell na mynd yn l adref.
9
Dyma'r hyn a wnawn i Gibea: awn yn ei herbyn trwy fwrw coelbren;
10
a dewiswn ddeg dyn o bob cant, cant o bob mil, a mil o bob myrddiwn trwy holl lwythau Israel, i gasglu lluniaeth i'r fyddin fydd yn mynd yn erbyn Gibea Benjamin o achos yr holl anlladrwydd a wnaethant yn Israel."
11
Felly daeth yr holl Israeliaid at ei gilydd fel un yn erbyn y dref.
12
Anfonodd llwythau Israel ddynion drwy holl lwyth Benjamin gan ddweud, "Pa gamwri yw hwn a ddigwyddodd yn eich mysg?
13
Ildiwch y dihirod hyn sydd yn Gibea, inni eu rhoi i farwolaeth, a dileu'r drwg o Israel." Ond ni fynnai'r Benjaminiaid wrando ar eu perthnasau yr Israeliaid.
14
Ymgasglodd y Ben-jaminiaid o'u trefi i Gibea er mwyn mynd i ryfel yn erbyn yr Israeliaid.
15
Ar y dydd hwnnw rhestrwyd o drefi'r Benjaminiaid chwe mil ar hugain o ddynion yn dwyn cleddyf, ar wahn i drigolion Gibea, a oedd yn rhestru saith gant o wu375?r dethol.
16
Yn yr holl fyddin hon yr oedd pob un o'r saith gant o wu375?r dethol yn llawchwith, ac yn medru anelu carreg i drwch y blewyn heb fethu.
17
Yr oedd gwu375?r Israel, ar wahn i Benjamin, yn rhestru pedwar can mil o ddynion yn dwyn cleddyf, pob un yn rhyfelwr.
18
Aeth yr Israeliaid yn eu blaen i Fethel, a gofyn i Dduw, "Pwy ohonom sydd i arwain yn y frwydr yn erbyn y Benjaminiaid?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Jwda sydd i arwain."
19
Cychwynnodd yr Israeliaid ben bore a gwersyllu gyferbyn Gibea.
20
Aeth yr Israeliaid i ymosod ar y Benjaminiaid, a gosod eu rhengoedd ar gyfer brwydr o flaen Gibea.
21
Ond ymosododd y Ben-jaminiaid allan o Gibea, a gadael dwy fil ar hugain o blith byddin Israel yn farw ar y maes y diwrnod hwnnw.
22
Cyn i fyddin pobl Israel atgyfnerthu ac ailymgynnull i ryfel yn yr un fan 'r diwrnod cynt,
23
aeth yr Israeliaid i fyny i Fethel ac wylo gerbron yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a gofyn i'r ARGLWYDD, "A awn ni eto i ymladd 'n brodyr y Benjaminiaid?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Ewch!"
24
Felly fe aeth yr Israeliaid i ryfela 'r Benjaminiaid yr ail ddiwrnod.
25
Gwnaeth y Benjaminiaid gyrch arnynt eilwaith o Gibea, a'r tro hwn gadael deunaw mil o blith byddin Israel yn farw ar y maes, a'r rheini bob un yn dwyn cleddyf.
26
Felly fe aeth yr Israeliaid i gyd, a'r holl fyddin, i fyny i Fethel, ac wylo ac eistedd yno gerbron yr ARGLWYDD gan ymprydio drwy'r dydd hyd yr hwyr, ac offrymu poethoffrymau a heddoffrymau gerbron yr ARGLWYDD.
27
Yr adeg honno, ym Methel yr oedd arch cyfamod Duw,
28
a Phinees fab Eleasar, fab Aaron oedd yn gofalu amdani ar y pryd. Pan ofynnodd yr Israeliaid i'r ARGLWYDD, "A awn ni allan i ymladd eto 'n perthnasau y Ben-jaminiaid, ai peidio?" atebodd yr ARGLWYDD, "Ewch, oherwydd yfory fe'u rhoddaf hwy yn eich llaw."
29
Gosododd Israel filwyr cudd o amgylch Gibea,
30
cyn mynd i fyny'r trydydd dydd yn erbyn y Benjaminiaid ac ymgynnull yn eu rhengoedd o flaen Gibea fel cynt.
31
Gwnaeth y Benjamin-iaid gyrch yn erbyn y fyddin, a denwyd hwy oddi wrth y dref; dechreusant wneud lladdfa ymysg y fyddin fel cynt, ac archolli tua deg ar hugain o'r Israeliaid yn y tir agored ger y priffyrdd i Fethel ac i Gibea.
32
Yr oedd y Benjaminiaid yn dweud, "Yr ydym yn eu trechu fel o'r blaen"; a'r Israeliaid yn dweud, "Fe giliwn er mwyn eu denu o'r dref i'r priffyrdd."
33
Yna safodd yr Israeliaid a ffurfio'u rhengoedd ger Baal-tamar, a dyma'r Israeliaid oedd wedi ymguddio yn rhuthro o'u cuddfeydd i'r gorllewin o Gibea.
34
Daeth deng mil o filwyr dethol o Israel gyfan yn erbyn y Gibeaid o'r dwyrain; ond am fod brwydr chwyrn ar y pryd, ni wyddai'r Benjaminiaid fod trychineb yn dod arnynt.
35
Trawodd yr ARGLWYDD wu375?r Benjamin o flaen yr Israeliaid, a'r diwrnod hwnnw lladdodd yr Israeliaid o blith Benjamin bum mil ar hugain ac un cant o wu375?r yn dwyn cleddyf.
36
Gwelodd y Benjaminiaid eu bod wedi colli'r dydd. Yr oedd byddin Israel wedi ildio tir i'r Benjaminiaid am eu bod yn ymddiried yn y milwyr cudd a osodwyd ger Gibea.
37
Brysiodd y milwyr cudd i ruthro ar Gibea, gan adael eu cuddfannau a tharo'r holl dref 'r cleddyf.
38
Yr arwydd i fyddin Israel oddi wrth y rhai ynghudd fyddai colofn o fwg yn mynd i fyny o'r dref;
39
yna byddai byddin Israel yn troi yn y frwydr. Ar y dechrau yr oedd y Benjaminiaid wedi anafu tua deg ar hugain o fyddin Israel, a meddwl yn sicr eu bod yn eu concro fel yn y frwydr flaenorol.
40
Ond pan ddechreuodd y golofn fwg esgyn o'r dref i'r awyr, trodd y Benjaminiaid a gweld y dref gyfan yn wenfflam.
41
Pan drodd byddin Israel arnynt, brawychwyd y Benjaminiaid o sylweddoli bod trychineb wedi eu goddiweddyd.
42
Troesant i ffwrdd o flaen byddin Israel i gyfeiriad yr anialwch, ond parhaodd yr ymladd; ac yr oedd yr Israeliaid, a oedd wedi dod i'r dref, bellach yn eu mysg yn eu difa.
43
Buont yn erlid y Benjaminiaid o bob tu yn ddiatal, a'u goddiweddyd i'r dwyrain o Gibea.
44
Syrthiodd deunaw mil o wu375?r Benjamin, y cwbl ohonynt yn rhyfelwyr dewr.
45
Trodd y gweddill a ffoi tua'r anialwch i graig Rimmon, a daliodd yr Israeliaid bum mil ohonynt ar y priffyrdd; yna buont yn ymlid yn galed ar l y Benjaminiaid hyd at Gidom, a lladd dwy fil ohonynt.
46
Cyfanswm y rhai o Benjamin a syrthiodd y diwrnod hwnnw oedd pum mil ar hugain o wu375?r yn dwyn cleddyf, a'r cwbl ohonynt yn rhyfelwyr dewr.
47
o'r rhai a drodd a ffoi tua'r anialwch i graig Rimmon, cyrhaeddodd chwe chant o wu375?r, a buont yn byw yng nghraig Rimmon am bedwar mis.
48
Wedi i fyddin Israel droi yn ei hl yn erbyn y Benjaminiaid, lladdasant 'r cleddyf bawb yn y dref, gan gynnwys anifeiliaid, a llosgi hefyd bob tref a ddaeth i'w meddiant.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21