bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Judges 14
Judges 14
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 15 →
1
Aeth Samson i Timna, ac yno sylwodd ar un o ferched y Philistiaid.
2
Pan ddychwelodd, dywedodd wrth ei dad a'i fam, "Yr wyf wedi gweld un o ferched y Philistiaid yn Timna; cymerwch honno'n wraig imi."
3
Ac meddai ei dad a'i fam wrtho, "Onid oes gwraig iti ymhlith merched dy gymrodyr a'th holl geraint? Pam yr ei i geisio gwraig o blith y Philistiaid dienwaededig?" Ond dywedodd Samson wrth ei dad, "Cymer honno imi, oherwydd hi sydd wrth fy modd."
4
Ni wyddai ei dad a'i fam mai oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd hyn, ac mai ceisio achos yn erbyn y Philistiaid yr oedd ef. Yr adeg honno y Philistiaid oedd yn arglwyddiaethu ar Israel.
5
Aeth Samson i lawr gyda'i dad a'i fam i Timna, a phan gyrhaeddodd winllannoedd Timna, daeth llew ifanc i'w gyfarfod dan ruo.
6
Disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Samson, a holltodd y llew ifanc fel hollti myn, heb ddim yn ei law; ond ni ddywedodd wrth ei rieni beth a wnaeth.
7
Yna aeth Samson yn ei flaen i siarad gyda'r ferch, a'i chael wrth ei fodd.
8
Pan ddych-welodd ymhen amser i'w phriodi, trodd i edrych ar ysgerbwd y llew, a dyna lle'r oedd haid o wenyn a ml y tu mewn i'r corff.
9
Cymerodd beth o'r ml yn ei law, ac aeth yn ei flaen dan fwyta, nes dod at ei dad a'i fam; rhoddodd beth hefyd iddynt hwy i'w fwyta, heb ddweud wrthynt mai o gorff y llew y daeth y ml.
10
Aeth ei dad i lawr at y ferch, a gwnaeth Samson wledd yno yn l arfer y gwu375?r ifainc.
11
Pan welsant ef, dewiswyd deg ar hugain o gyfeillion i gadw cwmni iddo.
12
Ac meddai Samson wrthynt, "Yr wyf am osod pos i chwi; os llwyddwch i'w ateb yn gywir yn ystod saith diwrnod y wledd, rhof i chwi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad.
13
Ond os methwch roi'r ateb imi, rhaid i chwi roi i mi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad."
14
Dywedasant wrtho, "Mynega dy bos, inni ei glywed." A dywedodd wrthynt: "o'r bwytawr fe ddaeth bwyd, ac o'r cryf fe ddaeth melystra." Am dridiau buont yn methu ateb y pos.
15
Ar y pedwerydd dydd dywedasant wrth wraig Samson, "Huda dy u373?r i ddatgelu'r pos inni, neu fe'th losgwn di a'th deulu. Ai er mwyn ein tlodi y rhoesoch wahoddiad inni yma?"
16
Aeth gwraig Samson ato yn ei dagrau a dweud, "Fy nghasu yr wyt ti, nid fy ngharu; rwyt wedi gosod pos i lanciau fy mhobl heb ei egluro i mi." Ac meddai yntau, "Nid wyf wedi ei egluro i'm tad a'm mam; pam yr eglurwn ef i ti?"
17
Bu'n wylo wrtho trwy gydol y saith diwrnod y cynhaliwyd y wledd, ac ar y seithfed dydd fe'i heglurodd iddi, am ei bod wedi ei flino. Eglurodd hithau'r pos i lanciau ei phobl.
18
A dywedodd dynion y dref wrtho ar y seithfed diwrnod, cyn i'r haul fachlud: "Beth sy'n felysach na ml, a beth sy'n gryfach na llew?" Dywedodd yntau wrthynt: "Oni bai i chwi aredig 'm heffer, ni fyddech wedi datrys fy mhos."
19
Yna disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD arno, aeth i lawr i Ascalon a lladdodd ddeg ar hugain o ddynion. Cymerodd eu gwisgoedd a rhoi'r siwtiau i'r rhai a atebodd y pos, ond yr oedd wedi digio'n enbyd ac aeth yn ei l adref.
20
Rhoddwyd gwraig Samson i'w gyfaill, a fu'n was priodas iddo.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21