bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Judges 18
Judges 18
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 19 →
1
Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr adeg honno yr oedd llwyth Dan yn chwilio am randir i fyw ynddo, oherwydd hyd hynny nid oeddent wedi cael rhandir ymhlith llwythau Israel.
2
Anfonodd y Daniaid bump o ddynion teilwng ar ran y llwyth cyfan, i fynd o Sora ac Estaol i ysbo'r wlad a'i chwilio. Wedi iddynt dderbyn y gorchymyn i fynd i chwilio'r wlad, aethant cyn belled thu375? Mica ym mynydd-dir Effraim, a threulio'r nos yno.
3
Pan oeddent gerllaw tu375? Mica, dyma hwy'n adnabod llais y llanc o Lefiad; troesant i mewn a gofyn iddo, "Pwy ddaeth thi yma? Beth wyt ti'n ei wneud yn y fan hon? Pa fusnes sydd gennyt yma?"
4
Eglurodd sut yr oedd Mica wedi gweithredu gydag ef: "Y mae wedi fy nghyflogi, ac yr wyf finnau wedi dod yn offeiriad iddo."
5
Dywedasant wrtho, "Gofyn i Dduw, inni gael gwybod a lwyddwn ar ein taith."
6
Dywedodd yr offeiriad wrthynt, "Ewch mewn heddwch; y mae'ch taith dan ofal yr ARGLWYDD."
7
Aeth y pump i ffwrdd, a chyrraedd Lais. Yno gwelsant fod y bobl yn byw'n ddiogel, yr un fath 'r Sidoniaid, yn dawel a dibryder, heb fod yn brin o ddim ar y ddaear, ond yn berchnogion ar gyfoeth. Yr oeddent yn bell oddi wrth y Sidoniaid, heb gysylltiad rhyngddynt a neb.
8
Wedi iddynt ddychwelyd at eu pobl i Sora ac Estaol, gofynnodd eu pobl, "Beth yw'ch barn?"
9
Ac meddent hwy, "Dewch, awn i fyny yn eu herbyn, oherwydd gwelsom fod y wlad yn ffrwythlon iawn. Pam yr ydych yn sefyllian? Peidiwch ag oedi mynd yno i gymryd meddiant o'r wlad.
10
Pan ddewch yno, byddwch yn dod at bobl ddibryder ac i wlad eang; yn wir y mae Duw wedi rhoi i chwi le heb ynddo brinder o ddim ar y ddaear."
11
Felly cychwynnodd chwe chant o wu375?r arfog yn perthyn i lwyth Dan o Sora ac Estaol.
12
Aethant a gwersyllu yn Ciriath-jearim yn Jwda, a dyna pam yr enwyd y lle hwnnw Mahane-dan hyd heddiw; y mae i'r gorllewin o Ciriath-jearim.
13
Oddi yno aethant ymlaen i fynydd-dir Effraim nes dod at du375? Mica.
14
Yna dywedodd y pump, a oedd wedi mynd i ysbo'r wlad cyn belled Lais, wrth eu brodyr, "A wyddoch chwi fod effod, teraffim, cerfddelw a delw dawdd yn un o'r tai hyn? Gwyddoch beth i'w wneud yn awr."
15
Troesant am y lle, a dod at du375? Mica, cartref y llanc o Lefiad, a'i gyfarch.
16
Safodd y chwe channwr arfog o lwyth Dan wrth y drws,
17
tra aeth y pum dyn oedd wedi bod yn ysbo'r wlad i mewn i gymryd y gerfddelw, yr effod, y teraffim a'r ddelw dawdd. Safai'r offeiriad wrth y drws gyda'r chwe channwr arfog.
18
Wedi i'r rhain fynd i mewn i du375? Mica a chymryd y gerfddelw, yr effod, y teraffim a'r ddelw dawdd, dywedodd yr offeiriad wrthynt, "Beth ydych yn ei wneud?"
19
Dywedasant hwythau wrtho, "Taw di, a phaid dweud dim. Tyrd gyda ni, a bydd yn dad ac yn offeiriad i ni. Prun sydd orau, ai bod yn offeiriad i un teulu, ynteu'n offeiriad i lwyth a thylwyth yn Israel?"
20
Bodlonodd yr offeiriad a chymerodd yr effod, y teraffim a'r gerfddelw, ac ymuno 'r fintai.
21
Wedi iddynt ailgychwyn, gosodasant y rhai bychain a'r preiddiau a'r meddiannau ar y blaen.
22
Yr oeddent wedi mynd gryn bellter o du375? Mica cyn i'r dynion yn y tai gerllaw ei gartref gael eu galw ynghyd i ymlid y Daniaid.
23
Wedi iddynt oddiweddyd y Daniaid, troesant hwythau i'w hwynebu, ac meddent wrth Mica, "Beth sy'n bod, i beri iti ddod 'r fath fintai?"
24
Atebodd Mica, "Yr ydych wedi cymryd y duwiau a wneuthum, ac wedi mynd 'm hoffeiriad; a beth arall sydd gennyf? Sut felly y gallwch ofyn imi, 'Beth sy'n bod arnat?'"
25
Ac meddai'r Daniaid wrtho, "Paid chodi dy lais arnom, rhag i ddynion gwyllt eu tymer ruthro arnoch, ac i ti a'th deulu golli'ch bywyd."
26
Yna aeth y Daniaid ar eu ffordd, a gwelodd Mica eu bod yn gryfach nag ef, a throes yn l a mynd adref.
27
Cymerodd y Daniaid y pethau yr oedd Mica wedi eu gwneud, a'i offeiriad, ac aethant i Lais, at bobl dawel a dibryder, a'u lladd 'r cleddyf a llosgi'r dref.
28
Nid oedd neb i'w harbed, oherwydd yr oedd yn rhy bell o Sidon, ac nid oedd ganddynt gysylltiad neb. Yr oedd y dref mewn dyffryn yn perthyn i Beth-rehob, ac ailgododd y Daniaid y dref a byw ynddi,
29
a'i galw'n Dan ar l eu tad Dan, a aned i Israel. Ond Lais oedd enw'r dref ar y cyntaf.
30
Gosododd y Daniaid y gerfddelw i fyny, a bu Jonathan fab Gersom, fab Manasse, ac yna'i feibion, yn offeiriaid i lwyth Dan hyd y dydd y caethgludwyd y wlad.
31
Yr oeddent yn defnyddio'r gerfddelw a wnaeth Mica yr holl adeg y bu tu375? Dduw yn Seilo.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21