bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Judges 16
Judges 16
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 17 →
1
Pan aeth Samson i Gasa, gwelodd yno butain ac aeth i mewn ati.
2
Clywodd pobl Gasa fod Samson yno, a daethant at ei gilydd a disgwyl amdano drwy'r nos wrth borth y dref heb wneud unrhyw symudiad, gan feddwl, "Pan ddaw'n olau ddydd, fe'i lladdwn."
3
Gorweddodd Samson hyd hanner nos; yna cododd a gafael yn nwy ddr a dau gilbost porth y dref, a'u codi o'u lle, ynghyd 'r bar. Ac wedi eu gosod ar ei ysgwyddau, fe'u cariodd i gopa'r mynydd gyferbyn Hebron.
4
Ar l hyn, syrthiodd mewn cariad dynes yn nyffryn Sorec, o'r enw Delila.
5
Daeth arglwyddi'r Philistiaid ati a dweud wrthi, "Huda ef, i gael gweld ymhle y mae ei nerth mawr, a pha fodd y gallwn ei drechu a'i rwymo a'i gadw'n gaeth. Yna fe rydd pob un ohonom iti un cant ar ddeg o ddarnau arian."
6
Dywedodd Delila wrth Samson, "Dywed i mi ymhle y mae dy nerth mawr, a sut y gellir dy rwymo i'th gadw'n gaeth?"
7
Dywedodd Samson wrthi, "Petaent yn fy rhwymo saith llinyn bwa ir heb sychu, yna mi awn cyn wanned dyn cyffredin."
8
Daeth arglwyddi'r Philistiaid saith llinyn bwa ir heb sychu iddi, a rhwymodd hithau ef hwy.
9
Tra oedd gwylwyr cudd yn disgwyl mewn ystafell fewnol, dywedodd hi wrtho, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" Torrodd yntau y llinynnau, fel y torrir edau garth pan ddaw'n agos at dn. Ni ddatgelwyd cyfrinach ei gryfder.
10
Ac meddai Delila wrth Samson, "Dyma ti wedi gwneud ffu373?l ohonof a dweud celwydd wrthyf; yn awr dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di."
11
Dywedodd yntau, "Pe rhwyment fi rhaffau newydd heb fod erioed ar waith, yna mi awn cyn wanned dyn cyffredin."
12
Felly cymerodd Delila raffau newydd a'i rwymo hwy, a dweud, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" A thra oedd y gwylwyr yn parhau yn yr ystafell fewnol, torrodd ef y rhaffau oddi ar ei freichiau fel edau.
13
Ac meddai Delila wrth Samson, "Hyd yn hyn yr wyt wedi gwneud ffu373?l ohonof a dweud celwydd wrthyf; dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di." Dywedodd wrthi, "Pe baet yn gwau saith cudyn fy mhen i'r we, ac yn ei thynhau 'r hoelen, yna mi awn cyn wanned dyn cyffredin."
14
Felly suodd Delila ef i gysgu, a gweodd saith cudyn ei ben i mewn i'r we, a'i thynhau 'r hoelen. Yna dywedodd wrtho, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" Deffrdd yntau o'i gwsg, a thynnodd yn rhydd yr hoelen, y garfan a'r we.
15
Ac meddai hi wrtho, "Sut y medri di ddweud, 'Rwy'n dy garu', a thithau heb ymddiried ynof? Y tair gwaith hyn yr wyt wedi gwneud ffu373?l ohonof, a heb ddweud wrthyf yn iawn ymhle y mae dy nerth mawr."
16
Ac oherwydd ei bod yn ei flino 'i geiriau, ddydd ar l dydd, ac yn dal i'w boeni nes ei fod wedi ymldd,
17
fe ddywedodd ei gyfrinach yn llawn wrthi. Dywedodd, "Nid yw ellyn erioed wedi cyffwrdd 'm pen, oherwydd bm yn Nasaread i Dduw o groth fy mam. Petaent yn fy eillio, yna byddai fy nerth yn pallu ac mi awn cyn wanned dyn cyffredin."
18
Gwelodd Delila ei fod wedi dweud ei gyfrinach yn llawn wrthi, ac anfonodd am arglwyddi'r Philistiaid a dweud, "Dewch ar unwaith; y mae wedi dweud ei gyfrinach yn llawn wrthyf." Daeth arglwyddi'r Philistiaid ati 'r arian yn eu llaw.
19
Suodd hi Samson i gysgu ar ei gliniau, ac yna galwodd am ddyn i eillio saith cudyn ei ben. Dechreuodd ei gystwyo, ac yr oedd ei nerth wedi cilio rhagddo.
20
Dywedodd, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" Deffrdd ef o'i gwsg gan feddwl, "Af allan fel o'r blaen ac ymryddhau." Ni wyddai fod yr ARGLWYDD wedi cefnu arno.
21
Daliodd y Philistiaid ef, a thynnu ei lygaid, a mynd ag ef i lawr i Gasa a'i rwymo mewn gefynnau; a bu'n malu blawd yn y carchardy.
22
Ond dechreuodd ei wallt dyfu eto ar l ei eillio.
23
Daeth arglwyddi'r Philistiaid ynghyd mewn llawenydd i offrymu aberth mawr i'w duw Dagon a dweud: "Rhoddodd ein duw yn ein dwylo ein gelyn Samson."
24
A phan welodd y bobl ef, rhoesant foliant i'w duw a dweud: "Rhoddodd ein duw yn ein dwylo ein gelyn ac anrheithiwr ein gwlad, a amlhaodd ein celaneddau."
25
Pan oeddent yn llawn hwyliau dywedasant, "Galwch Samson i'n difyrru." Galwyd Samson o'r carchardy, a gwnaeth hwyl iddynt; a rhoddwyd ef i sefyll rhwng y colofnau.
26
Dywedodd Samson wrth y bachgen oedd yn gafael yn ei law, "Rho fi lle y gallaf deimlo'r colofnau sy'n cynnal y deml, imi gael pwyso arnynt."
27
Yr oedd y deml yn llawn o ddynion a merched; yr oedd holl arglwyddi'r Philistiaid yno hefyd, a thua thair mil o bobl ar y to yn edrych ar Samson yn eu difyrru.
28
Yna galwodd Samson ar yr ARGLWYDD a dweud, "O Arglwydd DDUW, cofia fi, a nertha fi'r tro hwn yn unig, O Dduw, er mwyn imi gael dial unwaith am byth ar y Philistiaid am fy nau lygad."
29
Ymestynnodd Samson at y ddwy golofn ganol oedd yn cynnal y deml, a phwyso arnynt, ei law dde ar un a'i law chwith ar y llall.
30
Yna dywedodd, "Bydded i minnau farw gyda'r Philistiaid!" Gwthiodd yn nerthol, a chwympodd y deml ar yr arglwyddi a'r holl bobl oedd ynddi, ac felly lladdodd Samson fwy wrth farw nag a laddodd yn ystod ei fywyd.
31
Aeth ei frodyr a'i holl deulu i lawr i'w gymryd ef a'i gludo oddi yno, a'i gladdu rhwng Sora ac Estaol ym medd ei dad Manoa. Bu'n farnwr ar Israel am ugain mlynedd.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21