bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Judges 21
Judges 21
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
1
Yr oedd yr Israeliaid wedi tyngu yn Mispa na fyddai neb ohonynt yn rhoi ei ferch yn wraig i Benjaminiad.
2
Wedi i'r bobl ddod i Fethel ac eistedd yno gerbron Duw hyd yr hwyr, dechreusant wylo'n hidl,
3
a dweud, "Pam, O ARGLWYDD Dduw Israel, y digwyddodd hyn i Israel, bod un llwyth heddiw yn eisiau?"
4
Trannoeth, wedi i'r bobl godi'n fore, codasant yno allor ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau.
5
Yna dywedodd yr Israeliaid, "Pwy o holl lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i'r cynulliad?" Oherwydd yr oedd llw difrifol wedi ei dyngu y byddai'r sawl na ddi i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa yn sicr o gael ei roi i farwolaeth.
6
Gofidiodd yr Israeliaid am eu perthynas Benjamin, a dweud, "Y mae un llwyth wedi ei dorri allan o Israel heddiw.
7
Beth a wnawn ni dros y dynion sydd ar l, a ninnau wedi tyngu i'r ARGLWYDD na roddem iddynt yr un o'n merched yn wraig?"
8
Ac meddent, "Prun o lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa?" Nid oedd neb o Jabes-gilead wedi dod i'r gwersyll i'r cynulliad.
9
Pan gyfrifwyd y bobl, nid oedd yno neb o drigolion Jabes-gilead.
10
Felly anfonodd y cynulliad ddeuddeng mil o wu375?r rhyfel yno, a gorchymyn iddynt, "Ewch a lladdwch drigolion Jabes-gilead 'r cleddyf, yn cynnwys y gwragedd a'r plant.
11
A dyma'r hyn a wnewch: dinistriwch yn llwyr bob dyn, a phob dynes nad yw'n wyryf."
12
Cawsant ymhlith Jabes-gilead bedwar cant o wyryfon nad oeddent wedi gorwedd gyda dyn; a daethant hwy i'r gwersyll i Seilo yng ngwlad Canaan.
13
Anfonodd y cynulliad cyfan neges at y Benjaminiaid oedd yng nghraig Rimmon, a chynnig heddwch iddynt.
14
Yna, wedi iddynt ddychwelyd, rhoesant iddynt y merched o Jabes-gilead yr oeddent wedi eu harbed. Eto nid oedd hynny'n ddigon ar eu cyfer.
15
A chan fod y bobl yn gofidio am Benjamin, am i'r ARGLWYDD wneud bwlch yn llwythau Israel,
16
dywedodd henuriaid y cynulliad, "Beth a wnawn am wragedd i'r gweddill, gan fod y merched wedi eu difa o blith Benjamin?"
17
Ac meddent, "Rhaid cael etifeddion i'r rhai o Benjamin a arbedwyd, rhag dileu llwyth o Israel.
18
Ni allwn roi iddynt wragedd o blith ein merched ni, am fod yr Israeliaid wedi tyngu, 'Melltigedig fyddo'r hwn a roddo wraig i Benjamin.'"
19
A dyna hwy'n dweud, "Y mae gu373?yl i'r ARGLWYDD bob blwyddyn yn Seilo, o du'r gogledd i Fethel, ac i'r dwyrain o'r briffordd sy'n arwain o Fethel i Sichem, i'r de o Lebona."
20
A rhoesant orchymyn i'r Benjaminiaid, "Ewch ac ymguddiwch yn y gwinllannoedd,
21
a gwyliwch. A phan ddaw merched Seilo allan i ddawnsio, rhuthrwch allan o'r gwinllannoedd a chipiwch bob un wraig o'u plith, ac yna dewch yn l i dir Benjamin.
22
Ac os daw eu hynafiaid neu eu brodyr atom i achwyn, fe ddywedwn wrthynt, 'Byddwch yn rasol wrthynt, oherwydd ni chawsom wragedd iddynt trwy ryfel; ac nid chwi sydd wedi eu rhoi hwy iddynt, felly rydych chwi'n ddieuog.'"
23
Gwnaeth y Benjaminiaid hyn, ac wedi i bob un gael gwraig o blith y dawnswyr yr oeddent wedi eu cipio, aethant yn l i'w tiriogaeth ac ailadeiladu'r trefi a byw ynddynt.
24
Dychwelodd yr Israeliaid hefyd yr un pryd i'w tiriogaeth, a phob un yn mynd yn l at ei lwyth a'i deulu ei hun.
25
Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr oedd pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21