bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Judges 15
Judges 15
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 16 →
1
Ymhen amser, ar adeg y cynhaeaf gwenith, ymwelodd Samson 'i wraig gyda myn gafr, a dweud, "Yr wyf am gael mynd at fy ngwraig i'r siambr." Ond ni chaniataodd ei thad iddo fynd,
2
a dywedodd wrtho, "Yr oeddwn yn meddwl yn sicr ei bod hi'n llwyr atgas gennyt; felly rhoddais hi i'th was priodas. Y mae ei chwaer iau yn dlysach na hi; cymer hi yn ei lle."
3
Ond dywedodd Samson wrthynt, "Y tro hwn fe dalaf y pwyth i'r Philistiaid; fe achosaf niwed difrifol iddynt."
4
Aeth Samson a dal tri chant o lwynogod; ac wedi iddo gael ffaglau, fe'u clymodd hwy gynffon wrth gynffon, a gosod ffagl yn y canol rhwng y ddwy gynffon.
5
Yna wedi iddo gynnau'r ffaglau, gyrrodd hwy drwy gnydau'r Philistiaid, a llosgi'r styciau a'r u375?d oedd heb ei dorri a'r gerddi olewydd.
6
Pan ofynnodd y Philistiaid pwy oedd wedi gwneud hyn, dywedwyd, "Samson, mab-yng-nghyfraith y dyn o Timna, am fod hwnnw wedi cymryd ei wraig ef a'i rhoi i'w was priodas."
7
Aeth y Philistiaid a'i llosgi hi a'i thad; a dywedodd Samson, "Os ydych chwi'n ymddwyn fel hyn, nid ymataliaf finnau nes dial arnoch."
8
Trawodd hwy'n bendramwnwgl difrod mawr, cyn mynd ymaith ac aros mewn hafn yng nghraig Etam.
9
Daeth y Philistiaid i fyny a gwersyllu yn Jwda, ac ymledu trwy Lehi.
10
Gofynnodd gwu375?r Jwda, "Pam y daethoch yn ein herbyn?" Ac meddent, "Daethom i ddal Samson, a gwneud iddo ef fel y gwnaeth ef i ni."
11
Yna aeth tair mil o wu375?r o Jwda i hafn craig Etam a dweud wrth Samson, "Fe wyddost yn iawn mai'r Philistiaid sy'n ein llywodraethu; beth yw hyn a wnaethost inni?" Atebodd yntau, "Gwneuthum iddynt hwy fel y gwnaethant hwy i mi."
12
Yna dywedasant, "Yr ydym ni wedi dod yma i'th rwymo a'th roi yn llaw'r Philistiaid." Dywedodd Samson wrthynt, "Ewch ar eich llw na wnewch chwi niwed imi."
13
Dywedodd y gwu375?r, "Na, dim ond dy rwymo a wnawn, a'th drosglwyddo iddynt hwy; yn sicr, nid ydym am dy ladd." Yna rhwymasant ef dwy raff newydd, a mynd ag ef o'r graig.
14
Pan gyrhaeddodd Lehi, a'r Philistiaid yn bloeddio wrth ei gyfarfod, dis-gynnodd ysbryd yr ARGLWYDD arno, aeth y rhaffau oedd am ei freichiau fel llinyn wedi ei ddeifio gan dn, a syrthiodd ei rwymau oddi am ei ddwylo.
15
Cafodd n asyn, a honno heb sychu; gafaelodd ynddi 'i law, a lladd mil o ddynion.
16
Ac meddai Samson: " gn asyn rhois iddynt gurfa asyn; gn asyn lleddais fil o ddynion."
17
Wedi iddo orffen dweud hyn, taflodd yr n o'i law, a galwyd y lle hwnnw Ramath-lehi.
18
Yr oedd syched mawr arno, a galwodd ar yr ARGLWYDD a dweud, "Ti a roddodd y fuddugoliaeth fawr hon i'th was, ond a wyf yn awr i drengi o syched, a syrthio i afael y rhai dienwaededig?"
19
Holltodd Duw y ceubwll sydd yn Lehi, a ffrydiodd du373?r ohono; wedi iddo yfed, adferwyd ei ysbryd ac adfywiodd. Am hynny enwodd y ffynnon En-haccore; y mae yn Lehi hyd heddiw.
20
Bu Samson yn farnwr ar Israel am ugain mlynedd yng nghyfnod y Philistiaid.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21