bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Judges 4
Judges 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 5 →
1
Ar l i Ehud farw, gwnaeth yr Israeliaid unwaith eto yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
2
Felly gwerthodd yr ARGLWYDD hwy i law Jabin brenin Canaan, a oedd yn teyrnasu yn Hasor. Capten ei fyddin oedd Sisera, a oedd yn byw yn Haroseth y Cenhedloedd.
3
Yr oedd ganddo naw cant o gerbydau haearn, a bu'n gorthrymu'r Israeliaid yn galed am ugain mlynedd; am hynny gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD.
4
Proffwydes o'r enw Debora gwraig Lappidoth oedd yn barnu Israel yr adeg honno.
5
Byddai'n eistedd dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel ym mynydd-dir Effraim, a byddai'r Israeliaid yn mynd ati am farn.
6
Anfonodd hi am Barac fab Abinoam o Cedes Nafftali, a dweud wrtho, "Onid yw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn iti? Dos, cynnull ddeng mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon ar Fynydd Tabor, a chymer hwy gyda thi.
7
Denaf finnau, i'th gyfarfod wrth nant Cison, Sisera, capten byddin Jabin, gyda'i gerbydau a'i lu; ac fe'u rhoddaf yn dy law."
8
Ond dywedodd Barac wrthi, "Os doi di gyda mi, yna mi af; ac os na ddoi di gyda mi, nid af."
9
Meddai hithau, "Dof, mi ddof gyda thi; eto ni ddaw gogoniant i ti ar y llwybr a gerddi, oherwydd i law gwraig y mae'r ARGLWYDD am werthu Sisera." Yna cododd Debora a mynd gyda Barac i Cedes.
10
Cynullodd Barac lwythau Sabulon a Nafftali i Cedes, a dilynodd deng mil o ddynion ar ei l; aeth Debora hefyd gydag ef.
11
Yr oedd Heber y Cenead wedi ymwahanu oddi wrth y Ceneaid eraill oedd yn ddisgynyddion Hobab, tad-yng-nghyfraith Moses, ac wedi gosod ei babell cyn belled 'r dderwen yn Saanannim ger Cedes.
12
Pan ddywedwyd wrth Sisera fod Barac fab Abinoam wedi mynd i fyny i Fynydd Tabor,
13
galwodd Sisera ei holl gerbydau naw cant o gerbydau haearn a'i holl filwyr, o Haroseth y Cenhedloedd at nant Cison.
14
Yna dywedodd Debora wrth Barac, "Dos! Oherwydd dyma'r dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi Sisera yn dy law. Onid yw'r ARGLWYDD wedi mynd o'th flaen?" Aeth Barac i lawr o Fynydd Tabor gyda deng mil o wu375?r ar ei l.
15
Gyrrodd yr ARGLWYDD Sisera a'r cerbydau i gyd, a'r holl fyddin, ar chwl o flaen cleddyf Barac. Disgynnodd Sisera o'i gerbyd a ffoi ar ei draed.
16
Ymlidiodd Barac y cerbydau a'r fyddin cyn belled Haroseth y Cenhedloedd, a chwympodd holl fyddin Sisera o flaen y cleddyf, heb adael cymaint ag un.
17
Ffodd Sisera ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead, oherwydd yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a theulu Heber y Cenead.
18
Daeth Jael allan i gyfarfod Sisera a dywedodd wrtho, "Tro i mewn, f'arglwydd, tro i mewn ataf, paid ag ofni." Felly troes i mewn ati i'r babell, a thaenodd hithau gwrlid drosto.
19
Gofynnodd iddi am lymaid o ddu373?r i'w yfed, gan fod syched arno, ond agorodd hi botel o laeth a rhoi diod iddo, ac yna ei orchuddio eto.
20
Dywedodd wrthi, "Saf yn nrws y babell, ac os daw rhywun a gofyn iti a oes unrhyw un yma, dywed, 'Nac oes'."
21
Cymerodd Jael, gwraig Heber, hoelen pabell, cydiodd mewn morthwyl, ac aeth ato'n ddistaw a phwyo'r hoelen trwy ei arlais i'r llawr; yr oedd ef mewn trymgwsg ar l ei ludded, a bu farw.
22
Yna cyrhaeddodd Barac, yn ymlid Sisera; aeth Jael allan i'w gyfarfod, a dywedodd wrtho, "Tyrd, fe ddangosaf iti'r dyn yr wyt yn chwilio amdano." Aeth yntau i mewn, a dyna lle'r oedd Sisera yn gorwedd yn farw, a'r hoelen yn ei arlais.
23
Y diwrnod hwnnw darostyngodd Duw Jabin brenin Canaan gerbron yr Israeliaid.
24
Pwysodd yr Israeliaid yn drymach, drymach arno, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21