bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Chronicles 11
2 Chronicles 11
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 12 →
1
Daeth Rehoboam yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl.
2
Ond cafodd Shemaia y proffwyd neges gan yr ARGLWYDD.
3
“Dywed hyn wrth Rehoboam brenin Jwda ac wrth bobl Israel yn Jwda a Benjamin:
4
‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a wnaethon nhw ddim ymosod ar Jeroboam.
5
Roedd Rehoboam yn byw yn Jerwsalem. Trodd nifer o drefi yn Jwda yn gaerau amddiffynnol:
6
Bethlehem, Etam, Tecoa,
7
Beth-Tswr, Socho, Adwlam,
8
Gath, Maresha, Siff,
9
Adoraim, Lachish, Aseca,
10
Sora, Aialon, a Hebron. Dyma'r trefi amddiffynnol oedd yn Jwda a Benjamin.
11
Dyma fe'n cryfhau'r amddiffynfeydd, gosod swyddogion milwrol yno, ac adeiladu stordai i gadw bwyd, olew olewydd a gwin.
12
Roedd tariannau a gwaywffyn ym mhob un o'r trefi. Gwnaeth nhw'n hollol saff, a dyna sut cadwodd ei afael ar Jwda a Benjamin.
13
Roedd yr offeiriaid a'r Lefiaid o bob rhan o Israel yn ei gefnogi.
14
Roedd y Lefiaid hyd yn oed wedi gadael eu tir a'u heiddo a symud i Jwda ac i Jerwsalem, achos roedd Jeroboam a'i feibion wedi eu rhwystro nhw rhag bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD.
15
Roedd wedi penodi ei offeiriaid ei hun i wasanaethu wrth yr allorau lleol, ac arwain y bobl i addoli gafr-ddemoniaid a'r teirw ifanc roedd e wedi eu gwneud.
16
A dyma bawb o lwythau Israel oedd eisiau addoli'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn dilyn y Lefiaid i Jerwsalem. Yno roedden nhw'n gallu cyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.
17
Roedden nhw'n cryfhau teyrnas Jwda, ac am dair blynedd roedden nhw'n cefnogi Rehoboam fab Solomon. Buon nhw'n cadw gorchmynion Dafydd a Solomon am y tair blynedd.
18
Dyma Rehoboam yn priodi Machalath, oedd yn ferch i Ierimoth (un o feibion Dafydd) ac Abihail (oedd yn ferch i Eliab fab Jesse).
19
Cawson nhw dri o feibion, sef Iewsh, Shemareia a Saham.
20
Yna, ar ei hôl hi, dyma fe'n priodi Maacha, merch Absalom. Dyma hi'n cael plant hefyd, sef Abeia, Attai, Sisa a Shlomith.
21
Roedd Rehoboam yn caru Maacha (merch Absalom) fwy na'i wragedd eraill a'i gariadon. (Roedd ganddo un deg wyth o wragedd a chwe deg o bartneriaid, a cafodd dau ddeg wyth o feibion a chwe deg o ferched.)
22
Dyma Rehoboam yn penodi Abeia, oedd yn fab i Maacha, yn bennaeth ar ei frodyr; roedd e eisiau iddo fod yn frenin ar ei ôl.
23
Yn ddoeth iawn gwnaeth ei feibion i gyd yn gyfrifol am wahanol drefi amddiffynnol drwy Jwda a Benjamin. Dyma fe'n rhoi digon o fwyd iddyn nhw a darparu digon o wragedd ar eu cyfer.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36