bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Chronicles 23
2 Chronicles 23
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 24 →
1
Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn mentro gweithredu. Dyma fe'n gwneud cytundeb gyda'r swyddogion milwrol oedd yn arwain unedau o gannoedd: Asareia fab Ierocham, Ishmael fab Iehochanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elishaffat fab Sichri.
2
Dyma'r dynion yma yn teithio o gwmpas Jwda ac yn casglu'r Lefiaid i gyd o'r trefi ac arweinwyr claniau Israel. A dyma nhw i gyd yn mynd i Jerwsalem.
3
Dyma'r gynulleidfa yn ymrwymo yn y deml i fod yn ffyddlon i'r brenin. A dyma Jehoiada yn datgan, “Dyma fab y brenin! Bydd e yn teyrnasu fel dwedodd yr ARGLWYDD am ddisgynyddion Dafydd.
4
Dyma dych chi i'w wneud: Bydd un rhan o dair ohonoch chi offeiriaid a Lefiaid sydd ar ddyletswydd ar y Saboth yn gwarchod y drysau.
5
Bydd un rhan o dair yn gwarchod y palas, ac un rhan o dair wrth Giât y Sylfaen. Bydd pawb arall yn mynd i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD.
6
Does neb i fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD ond yr offeiriad a'r Lefiaid sydd ar ddyletswydd. Gallan nhw fynd i mewn am eu bod yn lân yn seremonïol. Rhaid i bawb arall wneud fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw.
7
Rhaid i'r Lefiaid sefyll o gwmpas y brenin gydag arfau yn eu dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod i mewn i'r deml, rhaid ei ladd. Bydd y Lefiaid gyda'r brenin ble bynnag mae'n mynd.”
8
Dyma'r Lefiaid a pobl Jwda yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned (y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a'r rhai oedd yn rhydd — wnaeth Jehoiada ddim eu rhyddhau nhw o'u dyletswydd.)
9
A dyma Jehoiada'r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau bach a mawr i'r capteniaid, sef arfau y brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml ARGLWYDD.
10
Yna dyma fe'n eu gosod yn eu lle i warchod y brenin, gyda'i harfau yn eu dwylo. Roedden nhw'n sefyll mewn llinell o un ochr y deml i'r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o'r deml, i amddiffyn y brenin.
11
Yna dyma Jehoiada a'i feibion yn dod â mab y brenin allan, a rhoi'r goron ar ei ben a chopi o'r rheolau sy'n dweud sut i lywodraethu. Yna dyma nhw'n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio trwy dywallt olew ar ei ben, a gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”
12
Dyma Athaleia'n clywed sŵn y cyffro a'r bobl yn canmol y brenin, a dyma hi'n mynd atyn nhw i'r deml.
13
Yno dyma hi'n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler wrth y fynedfa. Roedd y capteiniaid a'r trwmpedwyr o'i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu, yr utgyrn yn canu ffanffer a'r cerddorion gyda'i hofferynnau yn arwain y dathlu. Pan welodd hyn i gyd, dyma Athaleia'n rhwygo ei dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!”
14
Yna dyma Jehoiada'r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw, “Ewch â hi allan o'r deml at y rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi.” Roedd wedi dweud hyn am nad oedd hi i gael ei lladd yn y deml.
15
Felly dyma nhw'n ei harestio hi a mynd â hi i'r palas brenhinol drwy'r fynedfa i'r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd.
16
Dyma Jehoiada yn selio'r ymrwymiad rhyngddo'i hun, y bobl, a'r brenin, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i'r ARGLWYDD.
17
Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal a'i dinistrio. Dyma nhw'n chwalu'r allorau a malu'r delwau i gyd yn ddarnau mân, a cafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau.
18
Roedd Jehoiada wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD, a rhoi eu cyfrifoldebau i'r offeiriaid o lwyth Lefi, fel roedd Dafydd wedi trefnu. Nhw oedd yn gyfrifol am yr aberthau oedd i'w llosgi i'r ARGLWYDD, fel mae cyfraith Moses yn dweud, a hefyd y dathlu a'r gerddoriaeth, fel roedd Dafydd wedi trefnu.
19
Gosododd ofalwyr i wylio giatiau teml yr ARGLWYDD, i wneud yn siŵr fod neb oedd yn aflan mewn rhyw ffordd yn gallu mynd i mewn.
20
Yna dyma fe'n galw capteniaid yr unedau o gannoedd, yr arweinwyr, a'r swyddogion. A dyma'r dyrfa gyfan yn eu dilyn nhw ac yn arwain y brenin mewn prosesiwn, o'r deml i'r palas drwy'r Giât Uchaf. A dyma nhw'n gosod y brenin i eistedd ar yr orsedd.
21
Roedd pawb drwy'r wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36