bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Chronicles 8
2 Chronicles 8
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 9 →
1
Roedd dau ddeg mlynedd wedi mynd heibio ers i Solomon ddechrau adeiladu teml yr ARGLWYDD a'r palas.
2
Aeth ati i ailadeiladu'r trefi roedd Huram wedi eu rhoi iddo, a symud rhai o bobl Israel i fyw yno.
3
Aeth Solomon i ymladd yn erbyn tref Chamath-Soba, a'i choncro.
4
Adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a'r holl ganolfannau lle roedd ei storfeydd yn Chamath.
5
Gwnaeth Beth-choron uchaf a Beth-choron isaf yn gaerau amddiffynnol gyda waliau a giatiau y gellid eu cloi gyda barrau,
6
hefyd Baalath. Adeiladodd y canolfannau lle roedd ei storfeydd, a'r trefi ar gyfer y cerbydau a'r ceffylau rhyfel. Roedd Solomon yn adeiladu beth bynnag roedd e eisiau, yn Jerwsalem, yn Libanus ac ar hyd a lled y wlad.
7
Roedd yna lawer o bobl yn dal i fyw yn y wlad oedd ddim yn Israeliaid — Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid.
8
(Roedd disgynyddion y bobl yma'n dal yn y wlad, am fod Israel wedi methu cael gwared â nhw i gyd pan wnaethon nhw goncro'r wlad.) Dyma Solomon yn gorfodi'r bobl yma i weithio iddo'n ddi-dâl. A dyna'r drefn hyd heddiw.
9
Wnaeth Solomon ddim gorfodi pobl Israel i weithio iddo fel caethweision. Nhw oedd ei filwyr, ei brif-swyddogion, capteiniaid ei gerbydau a'i farchogion.
10
Roedd yna ddau gant pum deg ohonyn nhw yn gweithio i'r Brenin Solomon fel arolygwyr dros y bobl.
11
Yna dyma Solomon yn symud merch y Pharo o ddinas Dafydd i'r palas roedd e wedi ei adeiladu iddi. “Does dim gwraig i mi yn cael byw ym mhalas Dafydd, brenin Israel — achos mae ble bynnag mae Arch yr ARGLWYDD wedi bod yn gysegredig.”
12
Yna dyma Solomon yn cyflwyno aberthau i'w llosgi i'r ARGLWYDD ar yr allor roedd wedi ei chodi o flaen cyntedd y deml.
13
Roedd yn gwneud hyn yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn — bob dydd, ar bob Saboth, ar Ŵyl y lleuad newydd bob mis, ac ar y tair gŵyl fawr arall bob blwyddyn (sef Gŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf a Gŵyl y Pebyll).
14
Fel roedd ei dad Dafydd wedi gorchymyn, trefnodd yr offeiriaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu cyfrifoldebau. Trefnodd y Lefiaid i arwain y mawl ac i helpu'r offeiriaid fel roedd angen pob dydd. Hefyd gosododd ofalwyr y giatiau yn eu grwpiau i fod yn gyfrifol am y gwahanol giatiau. Roedd Dafydd, dyn Duw, wedi trefnu hyn i gyd.
15
Wnaethon nhw ddim anghofio unrhyw un o orchmynion y brenin am yr offeiriaid, y Lefiaid, y trysordai a phopeth arall.
16
Cafodd yr holl waith orchmynodd Solomon ei wneud, o'r diwrnod y cafodd y sylfaeni eu gosod nes roedd y deml wedi ei gorffen. Dyna sut cafodd teml yr ARGLWYDD ei hadeiladu.
17
Yna dyma Solomon yn mynd i Etsion-geber, ac i Elat ar yr arfordir yng ngwlad Edom.
18
A dyma Huram yn anfon llongau a morwyr profiadol i fynd gyda'i weision i Offir, a dod â tua un deg chwech tunnell o aur o'r fan honno i'r Brenin Solomon.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36