bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Chronicles 20
2 Chronicles 20
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 21 →
1
Beth amser wedyn dyma fyddinoedd Moab ac Ammon, a rhai o'r Mewniaid gyda nhw, yn dod i ryfela yn erbyn Jehosaffat.
2
Daeth negeswyr i ddweud wrth Jehosaffat, “Mae yna fyddin enfawr yn dod yn dy erbyn o gyfeiriad Edom, yr ochr draw i'r Môr Marw. Maen nhw yn Chatsason-tamar yn barod!” (Enw arall ar En-gedi oedd Chatsason-tamar).
3
Roedd Jehosaffat wedi dychryn wrth glywed hyn, a dyma fe'n troi at yr ARGLWYDD am arweiniad. Gorchmynnodd fod pawb yn Jwda i ymprydio.
4
Felly dyma bobl Jwda yn dod at ei gilydd i ofyn i'r ARGLWYDD am help. Roedden nhw wedi dod o bob un o drefi Jwda.
5
Safodd Jehosaffat gyda'r dyrfa o flaen yr iard newydd yn y deml.
6
A dyma fe'n gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, onid ti ydy'r Duw yn y nefoedd sy'n llywodraethu dros holl deyrnasoedd y byd? Ti'n Dduw nerthol a grymus, a does neb yn gallu sefyll yn dy erbyn.
7
Onid ti, ein Duw, wnaeth yrru'r bobl oedd yn byw y wlad yma allan o flaen dy bobl Israel? Ti wnaeth roi'r tir yma i ddisgynyddion Abraham dy ffrind, am byth.
8
Maen nhw wedi byw yma, ac wedi adeiladu teml i dy anrhydeddu di, gan gredu,
9
‘Os daw unrhyw drychineb, fel byddin yn ymosod, cael ein barnu drwy haint neu newyn, gallwn ddod i sefyll yma o dy flaen, o flaen y deml (gan dy fod ti'n bresennol yma). Gallwn alw arnat ti a byddi'n gwrando ac yn ein hachub ni.’
10
Ond nawr mae byddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir yn ymosod arnon ni! Dyma'r bobloedd wnest ti ddim gadael i Israel eu concro ar y ffordd allan o'r Aifft. Roedd rhaid i bobl Israel fynd heibio iddyn nhw a pheidio eu difa.
11
Ac edrych sut maen nhw'n talu'n ôl i ni nawr! Maen nhw'n dod i'n gyrru ni allan o'r tir wnest ti ei roi i ni.
12
Ein Duw, plîs wnei di eu cosbi nhw? Dŷn ni ddim ddigon cryf i wrthsefyll y fyddin enfawr yma sy'n ymosod arnon ni. Dŷn ni ddim yn gwybod beth i'w wneud. Dŷn ni'n troi atat ti am help.”
13
Roedd dynion Jwda i gyd yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD gyda'i babis bach, eu gwragedd a'u plant.
14
Yna yng nghanol y dyrfa dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn disgyn ar un o'r Lefiaid o dylwyth Asaff, sef Iachsiel fab Sechareia (ŵyr i Benaia fab Jeiel, mab Mataneia).
15
Dyma fe'n dweud, “Gwrandwch bobl Jwda, a chi sy'n byw yn Jerwsalem, a'r Brenin Jehosaffat. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch bod ag ofn a peidiwch panicio am y fyddin fawr yma. Brwydr Duw ydy hon nid eich brwydr chi.
16
Ewch allan yn eu herbyn yfory pan fyddan nhw'n dod i fyny drwy Fwlch Sis. Byddan nhw ym mhen draw'r ceunant, o flaen Anialwch Ierwel.
17
Fyddwch chi ddim yn gorfod ymladd y frwydr yma. Byddwch yn sefyll lle rydych chi, ac yn gweld yr ARGLWYDD yn eich achub, bobl Jwda a Jerwsalem. Peidiwch bod ag ofn na panicio. Ewch allan yn eu herbyn yfory; mae'r ARGLWYDD gyda chi!’”
18
Yna dyma Jehosaffat yn ymgrymu â'i wyneb ar lawr, a dyma bobl Jwda a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem yn plygu i lawr i addoli'r ARGLWYDD.
19
Yna dyma'r Lefiaid o deulu Cohath a theulu Cora yn sefyll a chanu mawl i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ar dop eu lleisiau.
20
Yn gynnar y bore wedyn dyma nhw'n martsio allan i gyfeiriad Anialwch Tecoa. Pan oedden nhw ar fin gadael dyma Jehosaffat yn sefyll a dweud, “Gwrandwch arna i bobl Jwda, a chi sy'n byw yn Jerwsalem. Os gwnewch chi drystio'r ARGLWYDD eich Duw, byddwch yn iawn. Credwch beth ddwedodd ei broffwydi a byddwch yn llwyddo.”
21
Ar ôl trafod gyda'r bobl dyma fe'n gosod cerddorion o flaen y fyddin i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr, a chanu, “Diolchwch i'r ARGLWYDD; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
22
Wrth iddyn nhw ddechrau gweiddi a moli dyma'r ARGLWYDD yn cael grwpiau i ymosod ar fyddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir oedd yn dod i ryfela yn erbyn Jwda, a'u trechu nhw.
23
Dyma filwyr Ammon a Moab yn ymosod ar filwyr Mynydd Seir a'u dinistrio nhw'n llwyr. Ar ôl iddyn nhw wneud hynny dyma nhw'n ymosod ar ei gilydd.
24
Erbyn i fyddin Jwda gyrraedd y tŵr gwylio sy'n edrych allan i'r anialwch, y cwbl oedd ar ôl o'r fyddin fawr oedd cyrff marw ar lawr. Roedden nhw i gyd wedi eu lladd!
25
Dyma Jehosaffat a'i filwyr yn mynd i gasglu beth allen nhw, a chael cymaint o offer, dillad a phethau gwerthfawr, roedd gormod ohono i'w gario! Cymerodd dri diwrnod cyfan iddyn nhw gasglu'r cwbl!
26
Ar y pedwerydd diwrnod dyma pawb yn casglu at ei gilydd yn Nyffryn Beracha i addoli'r ARGLWYDD (Dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Beracha — sef Dyffryn y Fendith — hyd heddiw.)
27
Yna dyma Jehosaffat yn arwain y dynion i gyd yn ôl i Jerwsalem yn llawen. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi rheswm da iddyn nhw ddathlu!
28
Dyma nhw'n mynd i mewn i'r ddinas i sŵn nablau, telynau ac utgyrn, a dyma nhw'n mynd yn syth i deml yr ARGLWYDD.
29
Roedd gan y gwledydd o'u cwmpas ofn Duw ar ôl clywed sut roedd yr ARGLWYDD wedi ymladd yn erbyn gelynion Israel.
30
Cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch; roedd Duw wedi rhoi heddwch iddo o bob cyfeiriad.
31
Daeth Jehosaffat yn frenin ar Jwda pan oedd yn dri deg pump oed. Bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam.
32
Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat bethau oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
33
Ond gafodd yr allorau lleol ddim eu cymryd i ffwrdd, a doedd y bobl yn dal ddim yn hollol ffyddlon i Dduw eu hynafiaid.
34
Mae gweddill hanes Jehosaffat, o'r dechrau i'r diwedd, i'w cael yn Negeseuon Jehw fab Chanani, sydd wedi ei gadw yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Israel.
35
Yn ddiweddarach dyma Jehosaffat, brenin Jwda yn dod i gytundeb gydag Ahaseia, brenin Israel, oedd yn frenin drwg.
36
Dyma nhw'n cytuno i adeiladu llongau masnach mawr ym mhorthladd Etsion-geber.
37
A dyma Elieser fab Dodafa o Maresha yn proffwydo yn erbyn Jehosaffat, “Am dy fod ti wedi dod i gytundeb gydag Ahaseia, bydd yr ARGLWYDD yn dryllio dy waith.” A cafodd y llongau eu dryllio, a wnaethon nhw erioed hwylio.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36