bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Chronicles 16
2 Chronicles 16
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 17 →
1
Pan oedd Asa wedi bod yn frenin ers bron dri deg chwech o flynyddoedd, dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda.
2
Dyma Asa yn cymryd y cwbl o'r arian a'r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a'i anfon gyda'r neges yma i Ben-hadad, brenin Syria, yn Damascus:
3
“Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i'n anfon yr arian a'r aur yma i ti. Dw i eisiau i ti dorri'r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.”
4
Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y brenin Asa, a dyma fe'n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Dyma nhw'n taro Ïon, Dan, Abel-maim a canolfannau storfeydd Nafftali.
5
Pan glywodd Baasha am hyn, dyma fe'n rhoi'r gorau i'r prosiect o adeiladu Rama.
6
A dyma'r brenin Asa yn anfon pobl Jwda i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. Yna dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa.
7
Tua'r adeg honno dyma'r proffwyd Chanani yn mynd at Asa, brenin Jwda, a dweud wrtho, “Am dy fod wedi gofyn am help brenin Syria yn lle trystio'r ARGLWYDD, dy Dduw, wnei di byth orchfygu byddin Syria.
8
Oedd gan yr Affricaniaid a'r Libiaid ddim byddinoedd mawr gyda llawer iawn o gerbydau a marchogion? Ond am dy fod wedi trystio'r ARGLWYDD dyma fe'n gadael i ti ennill y frwydr.
9
Mae'r ARGLWYDD yn gwylio popeth sy'n digwydd ar y ddaear, ac yn barod i helpu'r rhai sy'n ei drystio fe'n llwyr. Ti wedi bod yn ffŵl. Byddi di'n ymladd rhyfeloedd yn ddi-stop o hyn ymlaen.”
10
Roedd Asa wedi gwylltio gyda'r proffwyd am siarad fel yna, a dyma fe'n ei roi yn y carchar. Bryd hynny dechreuodd Asa orthrymu rhai o'r bobl hefyd.
11
Mae hanes Asa, o'r dechrau i'r diwedd, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda ac Israel.
12
Pan oedd Asa wedi bod yn frenin am bron dri deg naw o flynyddoedd dyma fe'n dechrau dioddef o glefyd ar ei draed. Er ei fod e'n dioddef yn ddifrifol o'r afiechyd wnaeth e ddim gofyn am help yr ARGLWYDD, dim ond y meddygon.
13
Pan fuodd Asa farw, ar ôl bod yn frenin am dros bedwar deg o flynyddoedd;
14
cafodd ei gladdu yn y bedd roedd e wedi trefnu ei chloddio o'r graig yn ninas Dafydd. Cafodd ei roi i orwedd ar elor oedd wedi ei gorchuddio gyda pherlysiau a gwahanol bersawrau. A dyma nhw'n llosgi coelcerth enfawr i'w anrhydeddu.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36