bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Chronicles 5
2 Chronicles 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 6 →
1
Wedi i Solomon orffen adeiladu'r deml i'r ARGLWYDD, dyma fe'n dod â'r holl bethau roedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru i Dduw (arian, aur a chelfi eraill), a'u rhoi yn stordai teml Dduw.
2
Yna dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel (pennaeth pob llwyth a phob teulu) ato i Jerwsalem. Roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i gael ei symud o Ddinas Dafydd (sef Seion) i'w chartref newydd yn y deml.
3
Roedd pobl Israel i gyd wedi dod at y brenin adeg Gŵyl y Pebyll yn y seithfed mis.
4
Wedi i'r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma'r seremoni yn dechrau. Dyma'r Lefiaid yn codi'r Arch.
5
A dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cario Arch Duw, Pabell presenoldeb Duw a'r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell.
6
Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi'n amhosibl eu cyfri i gyd!
7
A dyma'r offeiriaid yn dod ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn a'i gosod yn ei lle yn y gell fewnol yn y deml, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y ceriwbiaid.
8
Roedd adenydd y ceriwbiaid wedi eu lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi'r Arch a'i pholion.
9
Ond roedd y polion mor hir, roedd hi'n bosibl gweld eu pennau nhw o'r ystafell o flaen y Gell Gysegredig Fewnol; ond doedden nhw ddim i'w gweld o'r tu allan. Maen nhw yno hyd heddiw.
10
Does yna ddim byd yn yr Arch ond y ddwy lechen roedd Moses wedi eu rhoi ynddi yn Sinai. Dyma lechi'r ymrwymiad roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud gyda phobl Israel pan ddaeth â nhw allan o'r Aifft.
11
Dyma'r offeiriaid yn dod allan o'r Lle Sanctaidd. Roedd pob un ohonyn nhw, o bob grŵp, wedi cysegru eu hunain.
12
Roedd yr holl Lefiaid oedd yn gerddorion — Asaff, Heman a Iedwthwn, gyda'u meibion a'u brodyr — yn gwisgo dillad o liain main gwyn. Roedden nhw'n sefyll i'r dwyrain o'r allor yn canu eu symbalau, nablau a thelynau. Wrth eu hymyl roedd cant dau ddeg o offeiriaid yn canu utgyrn.
13
Roedd y cerddorion a'r trwmpedwyr fel un, yn canu gyda'i gilydd i roi mawl a diolch i'r ARGLWYDD. I gyfeiliant yr utgyrn, y symbalau a'r offerynnau eraill, roedd pawb yn moli'r ARGLWYDD a chanu'r geiriau, “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Tra roedden nhw'n canu fel hyn daeth cwmwl a llenwi'r deml.
14
Doedd yr offeiriaid ddim yn gallu cario ymlaen gyda'i gwaith o achos y cwmwl. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi Teml Dduw.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36