bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Chronicles 7
2 Chronicles 7
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 8 →
1
Wrth i Solomon orffen gweddïo, daeth tân i lawr o'r awyr a llosgi'r offrwm a'r aberthau. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml.
2
Roedd yr offeiriaid yn methu mynd i mewn i deml yr ARGLWYDD am fod ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi ei deml.
3
Pan welodd pobl Israel y tân yn dod i lawr ac ysblander yr ARGLWYDD ar y deml, dyma nhw'n plygu ar eu gliniau a'u hwynebau ar y palmant. Roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD a diolch iddo drwy ddweud, “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
4
Roedd y brenin, a'r bobl i gyd, yn aberthu anifeiliaid i'r ARGLWYDD.
5
Dyma'r brenin Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a cant dau ddeg mil o ddefaid. Dyna sut gwnaeth Solomon, a'r holl bobl, gyflwyno'r deml i Dduw.
6
Roedd yr offeiriaid yn sefyll yn eu lle, gyda'r Lefiaid oedd yn canu'r offerynnau i foli'r ARGLWYDD. (Yr offerynnau oedd y Brenin Dafydd wedi eu gwneud a'u defnyddio ganddo i addoli a chanu, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”) Gyferbyn â'r Lefiaid roedd yr offeiriaid yn canu'r utgyrn, tra roedd y dyrfa yn sefyll.
7
Dyma Solomon yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna ble wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres wnaeth Solomon yn rhy fach i ddal yr holl offrymau.
8
Bu Solomon, a phobl Israel i gyd yn dathlu a cadw Gŵyl am saith diwrnod. Roedd tyrfa fawr yno o bob rhan o'r wlad, o Fwlch Chamath yn y gogledd yr holl ffordd i Wadi'r Aifft yn y de.
9
Yna ar yr wythfed diwrnod dyma nhw'n cynnal cyfarfod. Roedden nhw wedi cysegru'r allor am saith diwrnod a dathlu'r Ŵyl am saith diwrnod arall.
10
Ar y trydydd ar hugain o'r seithfed mis dyma Solomon yn anfon y bobl adre. A dyma pawb yn gadael yn hapus ac ar ben eu digon am fod yr ARGLWYDD wedi bod mor dda i Dafydd a Solomon ac i'w bobl Israel.
11
Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD a palas y brenin. Gwnaeth bopeth roedd wedi bod eisiau ei wneud i'r deml a'r palas.
12
A dyma'r ARGLWYDD yn dod at Solomon yn y nos, a dweud wrtho, “Dw i wedi ateb dy weddi a dewis y lle yma yn deml lle mae aberthau i'w cyflwyno.
13
Pan fydda i'n gwneud iddi stopio glawio, neu'n galw locustiaid i ddifa cnydau'r tir, neu'n taro fy mhobl gyda haint,
14
os bydd fy mhobl, ie fy mhobl i, yn cyfaddef eu bai, gweddïo arna i a'm ceisio i a stopio gwneud pethau drwg, yna bydda i'n gwrando o'r nefoedd; bydda i'n maddau eu pechod ac yn iacháu eu gwlad.
15
“Bydda i'n gwrando ar y gweddïau sy'n cael eu cyflwyno yn y lle yma.
16
Dw i wedi dewis a cysegru'r deml yma i fod yn gartref i mi am byth. Bydda i'n gofalu am y lle bob amser.
17
“Dw i eisiau i ti fyw fel gwnaeth dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i'n ddweud — bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi eu rhoi.
18
Yna bydda i'n gwneud i dy deulu di deyrnasu fel gwnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd yn teyrnasu ar Israel am byth.’
19
“Ond os byddwch chi yn troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a'r rheolau dw i wedi eu rhoi i chi; os byddwch chi'n addoli duwiau eraill,
20
yna bydda i yn eu chwynnu nhw o'r tir dw i wedi ei roi iddyn nhw. Bydda i'n troi cefn ar y deml yma dw i wedi chysegru i mi fy hun. A bydda i'n eich gwneud chi'n destun sbort ac yn jôc i bawb.
21
Ie, y deml yma hefyd, oedd yn adeilad mor wych — bydd pawb sy'n mynd heibio yn rhyfeddu ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad ac i'r deml yma?’
22
A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i'w dilyn a'u haddoli. Dyna pam mae'r ARGLWYDD wedi gadael i'r dinistr yma ddigwydd.’”
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36