bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Chronicles 17
2 Chronicles 17
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 18 →
1
Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le, ac aeth ati i gryfhau'r deyrnas iddi allu gwrthsefyll Israel.
2
Rhoddodd filwyr yn y trefi amddiffynnol a gosod garsiynau drwy wlad Jwda i gyd, ac yn y trefi roedd Asa ei dad wedi ei hennill oddi ar Effraim.
3
Roedd yr ARGLWYDD gyda Jehosaffat am ei fod, ar ddechrau ei deyrnasiad, yn dilyn ffyrdd ei hynafiad Dafydd. Doedd e ddim yn addoli duwiau Baal.
4
Roedd yn addoli Duw ei hynafiaid ac yn cadw ei orchmynion, yn wahanol i bobl Israel.
5
Felly dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ei deyrnas yn gadarn. Roedd pobl Jwda i gyd yn dod ag anrhegion i Jehosaffat, a daeth yn gyfoethog iawn, ac roedd parch mawr ato.
6
Roedd yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD a chael gwared â'r holl allorau lleol a polion y dduwies Ashera o Jwda.
7
Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma Jehosaffat yn anfon pump o'i swyddogion allan i drefi Jwda i ddysgu'r bobl am Gyfraith Duw. Enwau'r pump oedd Ben-chaïl, Obadeia, Sechareia, Nethanel a Michaia.
8
Ac roedd naw o Lefiaid yn eu helpu, sef Shemaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Shemiramoth, Jonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia. Roedd Elishama a Joram yr offeiriaid gyda nhw hefyd.
9
Buon nhw'n teithio o gwmpas trefi Jwda i gyd yn dysgu'r bobl o Lyfr Cyfraith yr ARGLWYDD.
10
Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar y gwledydd o gwmpas Jwda, a doedd neb am fynd i ryfel yn erbyn Jehosaffat.
11
Dyma rai o'r Philistiaid yn dod ag anrhegion a llwyth o arian i Jehosaffat, i dalu teyrnged iddo fel brenin. Daeth yr Arabiaid ag anifeiliaid iddo: 7,700 o hyrddod a 7,700 o fychod geifr.
12
Roedd Jehosaffat yn fwy a mwy pwerus, ac adeiladodd gaerau a chanolfannau storio yn Jwda.
13
Roedd ganddo lot fawr wedi ei gadw yn y canolfannau hynny, a byddin o filwyr profiadol yn Jerwsalem.
14
Roedd y rhain wedi eu rhannu yn ôl eu llwythau fel hyn: Capteiniaid ar unedau o fil o Jwda: Adna — yn gapten ar dri chan mil o filwyr profiadol, dewr.
15
Yna Iehochanan — yn gapten ar ddau gant wyth deg o filoedd.
16
Yna Amaseia fab Sichri (oedd wedi gwirfoddoli i wasanaethu yr ARGLWYDD) — roedd dau gan mil o filwyr profiadol, dewr gydag e.
17
Wedyn o lwyth Benjamin: Eliada, oedd yn filwr profiadol a dewr. Roedd dau gan mil o filwyr gydag e yn cario bwasaeth a tharian.
18
Yna Iehosafad — gyda cant wyth deg o filoedd o filwyr arfog.
19
Roedd y rhain i gyd yn gwasanaethu'r brenin, heb sôn am y rhai oedd wedi eu gosod yn y caerau amddiffynnol ar hyd a lled Jwda.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36