bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Chronicles 14
2 Chronicles 14
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 15 →
1
Pan fu farw, cafodd Abeia ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le. Pan ddaeth e'n frenin roedd heddwch yn y wlad am ddeg mlynedd.
2
Roedd Asa yn gwneud beth oedd yn dda ac yn plesio'r ARGLWYDD.
3
Dyma fe'n cael gwared â'r allorau paganaidd a'r temlau lleol, malu'r colofnau cysegredig a thorri i lawr bolion y dduwies Ashera.
4
Dyma fe'n dweud wrth bobl Jwda fod rhaid iddyn nhw addoli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a cadw ei ddysgeidiaeth a'i orchmynion.
5
Dyma fe'n cael gwared â'r holl allorau lleol a'r llestri dal arogldarth o drefi Jwda. Roedd heddwch yn y wlad pan oedd e'n frenin.
6
Dyma Asa'n adeiladu trefi amddiffynnol yn Jwda tra roedd y wlad yn dawel. Doedd dim rhyfel yn y cyfnod hwnnw am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddo.
7
Dwedodd Asa wrth bobl Jwda, “Gadewch i ni adeiladu'r trefi yma gyda waliau a thyrau o'u cwmpas, a giatiau gyda barrau i'w cloi. Mae'r wlad yma'n dal gynnon ni am ein bod wedi ceisio yr ARGLWYDD ein Duw. Dŷn ni wedi ei geisio, ac mae e wedi rhoi heddwch i ni o bob cyfeiriad.” Felly dyma nhw'n adeiladu ac roedden nhw'n llwyddiannus iawn.
8
Roedd gan Asa 300,000 o filwyr yn Jwda yn cario tariannau mawr a gwaywffyn. Gyda nhw roedd 280,000 o ddynion o lwyth Benjamin wedi eu harfogi gyda thariannau bach a bwasaeth. Roedden nhw i gyd yn filwr profiadol.
9
Un tro dyma Serach o Cwsh yn Nwyrain Affrica yn ymosod arnyn nhw gyda byddin o filiwn o ddynion a thri chant o gerbydau rhyfel. Wrth iddyn nhw gyrraedd Maresha
10
roedd Asa a'i fyddin yn Nyffryn Seffatha (heb fod yn bell o Maresha) yn paratoi i'w gwrthwynebu.
11
Dyma Asa'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw: “ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gallu helpu'r gwan pan mae byddin enfawr yn dod yn eu herbyn nhw. Helpa ni ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni'n dibynnu arnat ti. Dŷn ni wedi dod allan yn erbyn y fyddin enfawr yma ar dy ran di. O ARGLWYDD ein Duw, paid gadael i ddyn ennill yn dy erbyn di.”
12
Felly dyma'r ARGLWYDD yn galluogi'r brenin Asa a byddin Jwda i orchfygu'r fyddin o Cwsh yn Nwyrain Affrica. Dyma'r Affricanwyr yn ffoi
13
gydag Asa a'i fyddin yn mynd ar eu holau cyn belled â Gerar. Cafodd byddin Cwsh ei difa'n llwyr gan yr ARGLWYDD a'i fyddin. A dyma Asa a'i ddynion yn casglu lot fawr o ysbail.
14
Dyma nhw'n concro'r trefi o gwmpas Gerar i gyd, am fod yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r rheiny banicio. A dyma filwyr Jwda yn casglu llwythi o bethau gwerthfawr o'r trefi hynny hefyd.
15
A dyma nhw'n ymosod ar bebyll y rhai oedd yn gofalu am yr anifeiliaid, a dwyn llawer iawn o ddefaid a chamelod cyn mynd yn ôl i Jerwsalem.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36