bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Chronicles 36
2 Chronicles 36
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
1
[1] Dyma bobl y wlad yn cymryd Jehoachas, mab Joseia, a'i wneud yn frenin yn Jerwsalem yn lle ei dad.
2
Roedd e'n ddau ddeg tri pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis.
3
Dyma, Necho, brenin yr Aifft yn ei gymryd o Jerwsalem a rhoi treth ar y wlad o dair mil cilogram o arian a tri deg cilogram o aur.
4
Wedyn dyma fe'n gwneud Eliacim, brawd Jehoachas, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a newid ei enw i Jehoiacim. Yna cymryd Jehoachas, brawd y brenin, i lawr i'r Aifft.
5
Roedd Jehoiacim yn ddau ddeg pump oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw.
6
Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Dyma fe'n ei roi mewn cadwyni pres a mynd ag e'n gaeth i Babilon.
7
Cymerodd Nebwchadnesar rai o lestri teml yr ARGLWYDD a mynd â nhw i Babilon a'u gosod yn ei balas ei hun.
8
Mae gweddill hanes Jehoiacim, a'r pethau ffiaidd wnaeth e, a'r cyhuddiadau yn ei erbyn, i'w gweld yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel a Jwda. A daeth ei fab, Jehoiachin, yn frenin yn ei le.
9
Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis a deg diwrnod. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
10
Yn y gwanwyn dyma Nebwchadnesar yn anfon rhai i'w gymryd e i Babilon, a llestri gwerthfawr o deml yr ARGLWYDD hefyd. A dyma frenin Babilon yn gwneud perthynas iddo, Sedeceia, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
11
Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un mlynedd.
12
Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw, a gwrthododd wrando ar y proffwyd Jeremeia oedd yn rhoi neges Duw iddo.
13
Dyma fe'n gwrthryfela yn erbyn y Brenin Nebwchadnesar, er fod hwnnw wedi gwneud iddo addo o flaen Duw y byddai'n deyrngar iddo. Trodd yn ystyfnig a penstiff a gwrthod troi yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Israel.
14
Roedd arweinwyr yr offeiriaid a'r bobl hefyd yn anffyddlon, ac yn gwneud yr un math o bethau ffiaidd a'r gwledydd paganaidd. Dyma nhw'n llygru'r deml oedd wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.
15
Anfonodd yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, broffwydi i'w rhybuddio nhw dro ar ôl tro, am ei fod yn Dduw oedd yn tosturio wrth ei bobl a'i deml.
16
Ond roedden nhw'n gwneud hwyl ar ben negeswyr Duw, yn cymryd eu geiriau'n ysgafn a dirmygu ei broffwydi. Yn y diwedd roedd yr ARGLWYDD mor ddig gyda nhw doedd dim byd allai neb ei wneud i atal y farn.
17
Anfonodd Duw frenin Babilon yn eu herbyn. Dyma hwnnw'n lladd y dynion ifainc â'r cleddyf yn y deml. Gafodd neb eu harbed — y dynion a'r merched ifainc, na'r hen a'r oedrannus. Gadawodd yr ARGLWYDD iddo eu lladd nhw i gyd.
18
Cymerodd bopeth o deml Dduw, bach a mawr, popeth oedd yn stordai'r deml, a trysorau'r brenin a'i swyddogion, a mynd â'r cwbl i Babilon.
19
Wedyn dyma'r fyddin yn llosgi teml Dduw a bwrw waliau Jerwsalem i lawr. Dyma nhw'n llosgi'r palasau brenhinol a dinistrio popeth gwerthfawr oedd yno.
20
A dyma fe'n mynd â phawb oedd heb gael eu lladd yn gaethion i Babilon. Yno buon nhw'n gaethweision i'r brenin a'i feibion nes i'r Persiaid deyrnasu.
21
Felly daeth beth ddwedodd yr ARGLWYDD drwy Jeremeia yn wir. Cafodd y tir ei Sabothau, arhosodd heb ei drin am saith deg mlynedd.
22
Lai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo trwy Jeremeia. Dyma fe'n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy'r deyrnas i gyd. Dyma'r datganiad:
23
“Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw y nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Pwy ohonoch chi sy'n perthyn i'w bobl? Boed i'r ARGLWYDD eich Duw fynd gyda chi yn ôl i Jerwsalem!’”
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36