bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Numbers 1
Numbers 1
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 2 →
1
Flwyddyn ar ôl i bobl Israel adael gwlad yr Aifft, ar ddiwrnod cyntaf yr ail fis, dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses. Digwyddodd hyn yn y babell lle roedd Duw yn cyfarfod pobl, pan oedd pobl Israel yn anialwch Sinai. Dwedodd:
2
“Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl bobl Israel. Dw i eisiau i ti restru enwau'r dynion i gyd —
3
pawb sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin. Ti ac Aaron sydd i drefnu hyn,
4
gyda help un dyn o bob llwyth sy'n arweinydd ar ei deulu estynedig.
5
[5-15] “Dyma enwau'r dynion sydd i'ch helpu chi: [Llwyth] — [Arweinydd] Reuben — Elisur fab Shedeŵr Simeon — Shelwmiel fab Swrishadai Jwda — Nachshon fab Aminadab Issachar — Nethanel fab Tswár Sabulon — Eliab fab Chelon Yna meibion Joseff: Effraim — Elishama fab Amihwd Manasse — Gamaliel fab Pedatswr Wedyn, Benjamin — Abidan fab Gideoni Dan — Achieser fab Amishadai Asher — Pagiel fab Ochran Gad — Eliasaff fab Dewel Nafftali — Achira fab Enan.”
16
Dyna'r arweinwyr gafodd eu dewis o bob llwyth, yn benaethiaid ar bobl Israel.
17
Felly dyma Moses ac Aaron, a'r dynion yma gafodd eu henwi,
18
yn casglu'r bobl i gyd at ei gilydd y diwrnod hwnnw, sef diwrnod cyntaf yr ail fis. A cafodd pawb eu cofrestru, gan nodi'r llwyth a'r teulu roedden nhw'n perthyn iddo. Cafodd pob un o'r dynion oedd dros ugain oed eu rhestru,
19
yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Digwyddodd y cyfrifiad yma yn anialwch Sinai.
20
[20-43] A dyma'r canlyniadau, sef nifer y dynion dros ugain oed allai ymuno â'r fyddin, gan ddechrau gyda Reuben (mab hynaf Israel): [Llwyth] — [Nifer] Reuben — 46,500 Simeon — 59,300 Gad — 45,650 Jwda — 74,600 Issachar — 54,400 Sabulon — 57,400 Yna meibion Joseff: Effraim — 40,500 Manasse — 32,200 Wedyn, Benjamin — 35,400 Dan — 62,700 Asher — 41,500 Nafftali — 53,400
44
Dyma niferoedd y dynion gafodd eu cyfri gan Moses, Aaron, a'r deuddeg arweinydd (pob un yn cynrychioli llwyth ei hynafiad).
45
Cawson nhw eu cyfrif yn ôl eu teuluoedd — pob un dyn oedd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.
46
A'r cyfanswm oedd 603,550.
47
Ond doedd y cyfanswm yna ddim yn cynnwys y dynion o lwyth Lefi.
48
Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses,
49
“Paid cynnwys llwyth Lefi yn y cyfrifiad.
50
Mae'r Lefiaid i fod i ofalu am Dabernacl y Dystiolaeth, a'r holl ddodrefn a'r offer sydd ynddo. Nhw sydd i'w gario, gofalu amdano, a gwersylla o'i gwmpas.
51
Pan mae'r Tabernacl yn cael ei symud, y Lefiaid sydd i'w dynnu i lawr a'i godi eto. Os ydy rhywun arall yn mynd yn agos ato, y gosb fydd marwolaeth.
52
“Bydd lle penodol i bob un o lwythau Israel wersylla, a bydd gan bob llwyth ei fflag ei hun.
53
Ond bydd y Lefiaid yn gwersylla o gwmpas Tabernacl y Dystiolaeth, i amddiffyn pobl Israel rhag i'r ARGLWYDD ddigio gyda nhw. Cyfrifoldeb y Lefiaid ydy gofalu am Dabernacl y Dystiolaeth.”
54
Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36