bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Numbers 21
Numbers 21
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 22 →
1
Dyma frenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef, yn clywed fod Israel yn dod ar y ffordd i Atharîm. Felly dyma fe'n ymosod arnyn nhw, ac yn cymryd rhai o bobl Israel yn gaeth.
2
Dyma bobl Israel yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, “Os gwnei di'n helpu ni i goncro'r bobl yma, gwnawn ni ddinistrio eu trefi nhw'n llwyr.”
3
Dyma'r ARGLWYDD yn ateb eu gweddi nhw, a dyma nhw'n concro'r Canaaneaid a dinistrio eu trefi nhw'n llwyr. A dyma nhw'n galw'r lle yn Horma (sef ‛Dinistr‛).
4
Dyma nhw'n teithio o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Môr Coch, er mwyn mynd o gwmpas tir Edom. Ond ar y ffordd dyma nhw'n dechrau teimlo'n flin a diamynedd.
5
A dyma nhw'n dechrau cwyno eto, a dweud pethau yn erbyn Duw a Moses. “Pam dych chi wedi dod â ni allan o'r Aifft i farw yn yr anialwch yma? Does dim bwyd yma, na dŵr, a dŷn ni'n casáu y stwff diwerth yma!”
6
Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon nadroedd gwenwynig i'w canol nhw. Cafodd lot o bobl eu brathu a marw.
7
A dyma'r bobl yn dod at Moses a dweud, “Dŷn ni wedi pechu drwy ddweud pethau yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di. Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD yn cymryd y nadroedd yma i ffwrdd.” Felly dyma Moses yn gweddïo dros y bobl.
8
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Gwna ddelw o neidr, a'i chodi ar bolyn. Wedyn, pan fydd rhywun sydd wedi ei frathu yn edrych arni, bydd yn cael byw.”
9
Felly dyma Moses yn gwneud neidr bres a'i chodi ar bolyn. Wedyn os oedd neidr yn brathu rhywun, pan fyddai'r person hwnnw'n edrych ar y neidr bres byddai'n cael byw.
10
Dyma bobl Israel yn cychwyn yn eu blaenau eto, ac yn gwersylla yn Oboth.
11
Yna gadael Oboth a gwersylla yn Ïe-hafarîm yn yr anialwch i'r dwyrain o Moab.
12
Yna mynd yn eu blaenau eto a gwersylla yn Wadi Sered.
13
Wedyn mynd yn eu blaenau a gwersylla yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o'r ardaloedd ble mae'r Amoriaid yn byw. Mae Arnon ar ffin Moab, yn y canol rhwng Moab a'r Amoriaid.
14
Mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn cyfeirio at y lle fel yma: “Tref Waheb yn Swffa, a wadïau Arnon,
15
a llethrau'r ceunentydd sy'n ymestyn i Ar, ar y ffin gyda Moab.”
16
Teithio wedyn i Beër (sef ‛Y Ffynnon‛), lle dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casgla'r bobl at ei gilydd, a gwna i roi dŵr iddyn nhw.”
17
Yna dyma bobl Israel yn canu'r gân yma, “Ffrydia ffynnon! Canwch iddi!
18
Ffynnon agorodd tywysogion, wedi ei chloddio gyda theyrnwialennau a ffyn yr arweinwyr.” A dyma nhw'n teithio o'r anialwch i Mattana.
19
Yna ymlaen i Nachaliel, yna Bamoth,
20
ac yna'r dyffryn ar dir Moab, lle mae copa Pisga yn edrych dros yr anialwch.
21
Dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, i ofyn iddo:
22
“Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn ni'n cadw ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesi'r ffin yr ochr arall.”
23
Ond gwrthododd Sihon adael i bobl Israel groesi ei dir. Casglodd ei fyddin at ei gilydd, ac ymosod ar Israel yn Iahats yn yr anialwch.
24
Ond Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma nhw'n cymryd eu tir oddi arnyn nhw, o Geunant Arnon i Ryd Jabboc, a'r holl ffordd at ffin yr Ammoniaid. Roedd y ffin honno wedi ei hamddiffyn, ac yn gwbl ddiogel.
25
Dyma Israel yn concro trefi'r Amoriaid i gyd, a setlo ynddyn nhw, gan gynnwys dinas Cheshbon ei hun a'r pentrefi o'i chwmpas.
26
Cheshbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid. Ac roedd Sihon wedi concro brenin Moab a chymryd ei dir oddi arno, yr holl ffordd at Afon Arnon.
27
Dyna pam mae'r baledwyr yn dweud, “Dewch i Cheshbon, dinas Sihon, i'w hadfer a'i hailadeiladu.
28
Roedd tân yn llosgi yn Cheshbon — fflamau o dref y Brenin Sihon. Mae wedi llosgi Ar yn Moab ac arweinwyr ucheldir Arnon.
29
Mae hi ar ben arnat ti, Moab! Dych chi bobl sy'n addoli Chemosh wedi'ch difa. Mae eich meibion yn ffoaduriaid, a'ch merched wedi eu cymryd yn gaethion, gan Sihon, brenin yr Amoriaid.
30
Dŷn ni wedi eu difa nhw'n llwyr o Cheshbon yr holl ffordd i Dibon. Dŷn ni wedi eu taro nhw i lawr yr holl ffordd i Noffa a Medeba.”
31
Felly roedd pobl Israel yn byw yng ngwlad yr Amoriaid.
32
Dyma Moses yn anfon ysbiwyr i edrych ar dref Iaser. A dyma nhw'n dal y pentrefi yno, a gyrru allan yr Amoriaid oedd yn byw yno.
33
Wedyn dyma nhw'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn eu herbyn nhw yn Edrei.
34
Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.”
35
Felly dyma Israel yn ennill y frwydr yn erbyn Og a'i feibion a'i fyddin. Cawson nhw i gyd eu lladd. A dyma Israel yn cymryd y tir.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36