bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Numbers 12
Numbers 12
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 13 →
1
Roedd Miriam ac Aaron wedi dechrau beirniadu Moses, am ei fod wedi priodi dynes o ddwyrain Affrica (ie, dynes ddu o Affrica).
2
“Ai dim ond trwy Moses mae'r ARGLWYDD yn siarad?” medden nhw. “Ydy e ddim wedi siarad trwon ni hefyd?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi ei clywed nhw.
3
(Roedd Moses ei hun yn ddyn gostyngedig iawn. Doedd neb llai balch drwy'r byd i gyd.)
4
Felly dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Moses, Aaron a Miriam: “Dw i eisiau i'r tri ohonoch chi ddod at Babell Presenoldeb Duw.” Felly dyma'r tri ohonyn nhw'n mynd.
5
A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr mewn colofn o niwl o flaen mynedfa'r Tabernacl. A dyma fe'n dweud wrth Aaron a Miriam i gamu ymlaen, a dyma nhw'n gwneud hynny.
6
Yna dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud: Os oes proffwyd gyda chi, dw i'r ARGLWYDD yn siarad â'r person hwnnw drwy weledigaeth a breuddwyd.
7
Ond mae fy ngwas Moses yn wahanol. Dw i'n gallu ei drystio fe'n llwyr.
8
Dw i'n siarad gydag e wyneb yn wyneb — yn gwbl agored. Does dim ystyr cudd. Mae e'n gweld yr ARGLWYDD mewn ffordd unigryw. Felly pam oeddech chi mor barod i'w feirniadu?”
9
Roedd yr ARGLWYDD wedi digio go iawn gyda nhw, a dyma fe'n mynd i fwrdd.
10
Ac wrth i'r cwmwl godi oddi ar y Tabernacl, roedd croen Miriam wedi troi'n wyn gan wahanglwyf. Pan welodd Aaron y gwahanglwyf arni
11
dyma fe'n galw ar Moses, “Meistr, plîs paid cymryd yn ein herbyn ni. Dŷn ni wedi bod yn ffyliaid, ac wedi pechu!
12
Paid gadael iddi fod fel plentyn wedi ei eni'n farw, a hanner ei gnawd wedi diflannu cyn iddo ddod o'r groth!”
13
A dyma Moses yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O Dduw, plîs wnei di iacháu hi?”
14
A dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Petai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb byddai'n cael ei diystyru am saith diwrnod. Cau hi allan o'r gwersyll am saith diwrnod, a bydd hi'n cael dod yn ôl wedyn.”
15
Felly dyma Miriam yn cael ei chau allan o'r gwersyll am saith diwrnod. A wnaeth y bobl ddim teithio yn eu blaenau nes roedd Miriam yn ôl gyda nhw.
16
Ar ôl hynny dyma'r bobl yn gadael Chatseroth, ac yn gwersylla yn anialwch Paran.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36