bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Numbers 36
Numbers 36
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
1
Dyma arweinwyr clan Gilead (disgynyddion i Machir, mab Manasse fab Joseff), yn dod at Moses ac arweinwyr eraill Israel gyda cais.
2
“Dwedodd yr ARGLWYDD wrth ein meistr am ddefnyddio coelbren wrth rannu'r tir rhwng pobl Israel. Dwedodd hefyd y dylid rhoi tir ein brawd Seloffchad i'w ferched.
3
Ond petai un ohonyn nhw'n priodi dyn o lwyth arall, byddai eu tir nhw yn mynd i'r llwyth hwnnw, a byddai gynnon ni lai o dir.
4
A pan fydd hi'n flwyddyn y rhyddhau mawr bydd y tir yn aros yn nwylo'r llwyth maen nhw wedi priodi i mewn iddo — bydd yn cael ei dynnu oddi ar etifeddiaeth ein llwyth ni.”
5
Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses am roi'r rheol yma i bobl Israel: “Mae beth mae'r dynion o lwyth meibion Joseff yn ei ddweud yn iawn.
6
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn sydd i ddigwydd gyda merched Seloffchad: Maen nhw'n rhydd i briodi pwy bynnag maen nhw eisiau o fewn eu llwyth eu hunain.
7
Wedyn fydd y tir mae pobl Israel wedi ei etifeddu ddim yn symud o un llwyth i'r llall — bydd pawb yn cadw'r tir wnaethon nhw ei etifeddu gan eu hynafiaid.
8
Rhaid i bob merch sydd wedi etifeddu tir gan ei hynafiaid, pa lwyth bynnag mae'n perthyn iddo, briodi rhywun o fewn ei llwyth ei hun. Wedyn bydd pawb yn Israel yn cadw'r tir maen nhw wedi ei etifeddu gan eu hynafiaid.
9
Dydy'r tir gafodd ei etifeddu ddim i basio o un llwyth i'r llall. Mae pob llwyth yn Israel i gadw'r tir gafodd ei roi iddo.”
10
A dyma ferched Seloffchad yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
11
Dyma nhw i gyd — Machla, Tirtsa, Hogla, Milca a Noa — yn priodi cefndryd ar ochr eu tad o'r teulu.
12
Dyma nhw'n priodi dynion oedd yn perthyn i lwyth Manasse fab Joseff, ac felly arhosodd y tir roedden nhw wedi ei etifeddu o fewn llwyth eu hynafiaid.
13
Dyma'r gorchmynion a'r rheolau wnaeth yr ARGLWYDD eu rhoi i bobl Israel drwy Moses ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho.
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36