bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Numbers 8
Numbers 8
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 9 →
1
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2
“Dywed wrth Aaron, ‘Pan fyddi'n gosod y lampau yn eu lle, gwna'n siŵr fod y saith lamp yn taflu eu golau o flaen y menora.’”
3
A dyma Aaron yn gwneud hynny. Dyma fe'n gosod y lampau fel eu bod yn taflu eu golau o flaen y menora, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
4
Gwaith morthwyl oedd y menora — aur wedi ei guro. Roedd yn waith morthwyl o'i goes i'w betalau. Cafodd ei wneud i'r union batrwm roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddangos i Moses.
5
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
6
“Rwyt i gymryd y Lefiaid o blith pobl Israel a mynd trwy'r ddefod o'i puro nhw.
7
A dyma sut mae gwneud hynny: Rwyt i daenellu dŵr y puro arnyn nhw. Wedyn rhaid iddyn nhw siafio eu corff i gyd, golchi eu dillad, ac ymolchi.
8
Wedyn maen nhw i gymryd tarw ifanc, gyda'i offrwm o rawn (sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd). Yna cymryd tarw ifanc arall yn offrwm puro.
9
Wedyn rwyt i fynd â'r Lefiaid i sefyll o flaen Pabell Presenoldeb Duw, a casglu pobl Israel i gyd at ei gilydd yno.
10
Yna mae'r bobl i osod eu dwylo ar y Lefiaid tra maen nhw'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
11
Wedyn mae Aaron i gyflwyno'r Lefiaid i'r ARGLWYDD fel offrwm sbesial gan bobl Israel, i'w cysegru nhw i waith yr ARGLWYDD.
12
Wedyn bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y ddau darw ifanc. Bydd un yn offrwm puro, a'r llall yn cael ei offrymu i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a'r Lefiaid.
13
Yna mae'r Lefiaid i sefyll o flaen Aaron a'i feibion, i'w cyflwyno nhw'n offrwm sbesial i'r ARGLWYDD.
14
A dyna sut mae'r Lefiaid i gael eu gosod ar wahân i weddill pobl Israel. Fi fydd piau'r Lefiaid.”
15
“Bydd y Lefiaid wedyn yn mynd i wneud eu gwaith yn y Tabernacl, ar ôl cael eu puro a'i cyflwyno'n offrwm sbesial i mi.
16
Maen nhw wedi cael eu rhoi i weithio i mi yn unig. Dw i'n eu cymryd nhw yn lle meibion hynaf pobl Israel.
17
Fi piau'r meibion hynaf i gyd, a hefyd pob anifail cyntaf i gael ei eni. Ro'n i wedi eu cysegru nhw i mi fy hun pan wnes i ladd pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni yng ngwlad yr Aifft.
18
Ond dw i wedi cymryd y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel.
19
A dw i wedi rhoi y Lefiaid i Aaron a'i feibion i weithio ar ran pobl Israel yn y Tabernacl. Hefyd i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a phobl Israel, fel bod dim pla yn taro pobl Israel pan maen nhw'n mynd yn agos at y cysegr.”
20
Felly dyma Moses ac Aaron a phobl Israel i gyd yn cysegru'r Lefiaid. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
21
Dyma'r Lefiaid yn mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, a golchi eu dillad. Yna dyma Aaron yn eu cyflwyno nhw yn offrwm sbesial i'r ARGLWYDD. Ac wedyn dyma fe'n mynd trwy'r ddefod o wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw, er mwyn ei puro nhw.
22
Wedi hynny, dyma'r Lefiaid yn mynd i'r Tabernacl i wneud eu gwaith, yn helpu Aaron a'i feibion. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
23
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
24
“Dyma fydd y drefn gyda'r Lefiaid: Maen nhw'n cael dechrau gweithio yn y Tabernacl yn ddau ddeg pump mlwydd oed,
25
a rhaid iddyn nhw ymddeol pan fyddan nhw'n bum deg oed.
26
Ar ôl ymddeol maen nhw'n cael dal i helpu'r Lefiaid eraill pan mae angen, ond fyddan nhw ddim yn gwneud y gwaith eu hunain. Dyna fydd y drefn gyda gwaith y Lefiaid.”
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36