bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Numbers 28
Numbers 28
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 29 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2
“Rho'r gorchymyn yma i bobl Israel: ‘Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich offrymau i mi ar yr adegau iawn. Mae'r offrymau yma sy'n cael eu llosgi ar yr allor fel bwyd sy'n arogli'n hyfryd i mi.’
3
Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r offrwm sydd i gael ei losgi i'r ARGLWYDD: Dau oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw i'w cyflwyno'n rheolaidd fel offrwm i'w losgi'n llwyr.
4
Rhaid i'r oen cyntaf gael ei gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi.
5
Mae pob oen i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd.
6
Mae'r offrwm rheolaidd yma i gael ei losgi'n llwyr. Cafodd ei sefydlu ar Fynydd Sinai, yn offrwm fyddai'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
7
Ac mae offrwm o ddiod i fynd gydag e — litr am bob oen. Mae'r cwrw haidd yma i gael ei dywallt yn offrwm i'r ARGLWYDD yn y cysegr.
8
“‘Yna mae'r ail oen i gael ei offrymu pan mae'n dechrau nosi. Mae'r un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod i fynd gydag e. Mae hwn eto i gael ei losgi'n llwyr, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
9
“‘Yna ar y Saboth: Dau oen blwydd oed arall heb ddim byd o'i le arnyn nhw, a dau gilogram o'r blawd gwenith gorau yn offrwm o rawn, wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, a'r offrwm o ddiod sydd i fynd gydag e hefyd.
10
Mae'r offrwm yma i gael ei losgi bob Saboth, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sydd i gael ei losgi a'r offrwm o ddiod sy'n mynd gyda hwnnw.
11
“‘Ar ddiwrnod cyntaf pob mis rhaid rhoi'r canlynol yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw.
12
Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram gyda pob tarw, dau gilogram gyda'r hwrdd,
13
a cilogram gyda pob un o'r wyn. Mae pob un yn offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr, ac yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
14
Yn offrwm o ddiod gyda nhw: dwy litr o win gyda pob tarw, litr a chwarter gyda'r hwrdd, a litr gyda pob un o'r ŵyn. “‘Dyma'r offrwm sydd i'w losgi'n rheolaidd bob mis drwy'r flwyddyn.
15
Wedyn rhaid i un bwch gafr gael ei gyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrwm o ddiod sy'n mynd gyda hwnnw.
16
“‘Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
17
Yna mae Gŵyl arall yn dechrau ar y pymthegfed o'r mis. Dim ond bara sydd heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta.
18
Ar y diwrnod cyntaf rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
19
Rhaid i chi gyflwyno rhodd i'r ARGLWYDD bob dydd, sef offrwm i'w losgi'n llwyr — dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw.
20
Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd,
21
ac un cilogram ar gyfer pob oen.
22
Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw.
23
Mae'r rhain i gyd yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi'n llwyr bob bore.
24
Maen nhw i gael eu hoffrymu bob dydd am saith diwrnod, yn fwyd i'w losgi i'r ARGLWYDD, ac sy'n arogli'n hyfryd iddo. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrymau sy'n cael ei llosgi'n rheolaidd, a'r offrymau o ddiod sy'n mynd gyda nhw.
25
Yna ar y seithfed diwrnod rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli eto. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
26
“‘Ar ddiwrnod cynnyrch cyntaf y cynhaeaf, pan fyddwch yn dod a'r offrwm o rawn newydd i'r ARGLWYDD yn ystod Gŵyl y Cynhaeaf, rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
27
Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed.
28
Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd,
29
ac un cilogram ar gyfer pob oen.
30
Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw.
31
Mae'r rhain i gyd, gyda'u hoffrymau o ddiod, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi'n llwyr, a'r offrwm o rawn sy'n mynd gyda hwnnw. A gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le ar yr anifeiliaid sy'n cael eu hoffrymu.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36