bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Numbers 19
Numbers 19
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 20 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:
2
“A dyma reol arall mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei chadw: ‘Dywed wrth bobl Israel am ddod â heffer goch sydd â dim byd o'i le arni — anifail heb nam corfforol ac sydd erioed wedi gweithio gyda iau.
3
Rhaid rhoi'r heffer i Eleasar yr offeiriad, a bydd yn cael ei chymryd allan o'r gwersyll a'i lladd o'i flaen e.
4
Yna mae Eleasar i gymryd peth o waed yr heffer, a'i daenellu gyda'i fys saith gwaith i gyfeiriad Pabell Presenoldeb Duw.
5
Wedyn mae'r heffer i gael ei llosgi o'i flaen — y croen, cnawd, gwaed, a'r coluddion i gyd.
6
Yna rhaid i'r offeiriad gymryd pren cedrwydd, isop, ac edau goch a'u taflu nhw i'r tân lle mae'r heffer yn llosgi.
7
Wedyn rhaid i'r offeiriad olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
8
A rhaid i'r dyn sy'n llosgi'r heffer olchi ei ddillad hefyd, ac ymolchi mewn dŵr. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd.
9
“‘Yna rhaid i ddyn sydd ddim yn aflan gasglu lludw yr heffer goch, a'i osod mewn lle sy'n lân yn seremonïol tu allan i'r gwersyll. Mae'r lludw i'w gadw i bobl Israel ei ddefnyddio yn seremoni dŵr y puro. Mae'r seremoni yma ar gyfer symud pechodau.
10
Wedyn rhaid i'r un wnaeth gasglu'r lludw olchi ei ddillad. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd. Dyma fydd y drefn bob amser i bobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw.
11
“‘Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd corff marw yn aflan am saith diwrnod.
12
Rhaid i'r person hwnnw fynd trwy'r ddefod o buro ei hun gyda dŵr ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod, ac wedyn bydd yn lân. Os nad ydy e'n gwneud hynny bydd yn aros yn aflan.
13
Os ydy rhywun yn cyffwrdd corff marw a ddim yn puro ei hun, mae'r person hwnnw yn llygru Tabernacl yr ARGLWYDD. Bydd yn cael ei dorri allan o Israel, am fod dŵr y puro ddim wedi cael ei daenellu arno. Bydd yn aros yn aflan.
14
“‘Dyma sydd i ddigwydd pan mae rhywun yn marw mewn pabell: Mae unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r babell, neu'r rhai oedd yno pan fuodd y person farw, yn aflan am saith diwrnod.
15
A bydd unrhyw lestr heb gaead arno yn aflan hefyd.
16
“‘Os ydy rhywun allan yn y wlad yn cyffwrdd corff marw — corff rhywun sydd wedi ei ladd neu rywun sydd wedi marw'n naturiol — neu hyd yn oed yn cyffwrdd asgwrn dynol, neu fedd, bydd yn aflan am saith diwrnod.
17
“‘A dyma sut mae puro rhywun sy'n aflan: Rhaid cymryd peth o ludw yr heffer gafodd ei llosgi i symud pechodau, a thywallt dŵr glân croyw drostyn nhw mewn llestr.
18
Wedyn mae rhywun sydd ddim yn aflan i drochi brigau isop yn y dŵr, ac yna ei daenellu ar y babell a'r dodrefn i gyd, ac ar y bobl oedd yno ar y pryd. A'r un fath gyda rhywun sydd wedi cyffwrdd asgwrn dynol, neu gorff marw neu fedd.
19
Rhaid gwneud hyn ar y trydydd diwrnod ac ar y seithfed diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid i'r rhai oedd yn aflan olchi eu dillad ac ymolchi mewn dŵr. Byddan nhw'n aflan am weddill y dydd.
20
Ond os ydy rhywun yn aflan a ddim yn puro ei hun, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel, am ei fod wedi llygru cysegr yr ARGLWYDD. Gafodd dŵr y puro ddim ei daenellu arno, felly bydd yn dal yn aflan.
21
“‘A dyma fydd y drefn bob amser: Rhaid i'r un sy'n taenellu dŵr y puro olchi ei ddillad. Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd dŵr y puro yn aflan am weddill y dydd.
22
Bydd beth bynnag mae'r person sy'n aflan yn ei gyffwrdd yn aflan hefyd, a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd y peth hwnnw yn aflan am weddill y dydd.’”
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36