bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Numbers 26
Numbers 26
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 27 →
1
Ar ôl i'r pla orffen, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: ac wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad:
2
“Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad arall o bobl Israel — pawb o bob llwyth sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.”
3
Ar y pryd roedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. A dyma Moses ac Eleasar yn dweud wrthyn nhw,
4
“Rhaid cyfrif pawb dros ugain oed.” Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Moses. A dyma bobl Israel ddaeth allan o wlad yr Aifft:
5
O lwyth Reuben (mab hynaf Jacob) — disgynyddion Hanoch, Palw,
6
Hesron, a Carmi.
7
Cyfanswm Reuben oedd 43,730.
8
(Roedd Eliab yn un o ddisgynyddion Palw,
9
sef tad Nemwel, Dathan ac Abiram. Roedd Dathan ac Abiram gyda Cora yn arwain y bobl wnaeth droi yn erbyn Moses ac Aaron a gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.
10
A dyma'r ddaear yn agor ac yn eu llyncu nhw a Cora. Lladdodd y tân ddau gant pum deg ohonyn nhw. Mae beth ddigwyddodd iddyn nhw yn rhybudd i ni.
11
Ond wnaeth llinach Cora ei hun ddim diflannu'n llwyr.)
12
O lwyth Simeon — disgynyddion Nemwel, Iamin, Iachin,
13
Serach, a Saul.
14
Cyfanswm Simeon oedd 22,200.
15
O lwyth Gad — disgynyddion Seffon, Haggi, Shwni,
16
Osni, Eri,
17
Arod ac Areli.
18
Cyfanswm Gad oedd 40,500.
19
Roedd gan Jwda ddau fab, Er ac Onan, ond buodd y ddau farw yn fuan yn Canaan.
20
O lwyth Jwda — disgynyddion Shela, Perets, a Serach.
21
Ac o Perets — disgynyddion Hesron a Chamŵl.
22
Cyfanswm Jwda oedd 76,500.
23
O lwyth Issachar — disgynyddion Tola, Pwa,
24
Iashŵf, a Shimron.
25
Cyfanswm Issachar oedd 64,300.
26
O lwyth Sabulon — disgynyddion Sered, Elon a Iachle-el.
27
Cyfanswm Sabulon oedd 60,500.
28
Roedd dau lwyth, sef Manasse ac Effraim, yn ddisgynyddion i Joseff.
29
O lwyth Manasse — disgynyddion Machir a'i fab Gilead.
30
O Gilead — disgynyddion Ieser, Chelec,
31
Asriel, Sechem,
32
Shemida a Cheffer.
33
(Doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. Ac enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa.)
34
Cyfanswm Manasse oedd 52,700.
35
O lwyth Effraim — disgynyddion Shwtelach, Becher, a Tachan.
36
Ac o Shwtelach — disgynyddion Eran.
37
Cyfanswm Effraim oedd 32,500. Roedden nhw i gyd yn ddisgynyddion Joseff, drwy Manasse ac Effraim.
38
O lwyth Benjamin — disgynyddion Bela, Ashbel, Achiram,
39
Sheffwffâm, a Hwffam.
40
Wedyn o feibion Bela — disgynyddion Ard a Naaman.
41
Cyfanswm Benjamin oedd 45,600.
42
O lwyth Dan — disgynyddion Shwcham. Y Shwchamiaid oedd disgynyddion Dan,
43
a'i cyfanswm nhw oedd 64,400.
44
O lwyth Asher — disgynyddion Imna, Ishfi, a Bereia.
45
Wedyn o feibion Bereia — disgynyddion Heber a Malciel.
46
Roedd gan Asher ferch hefyd, sef Serach.
47
Cyfanswm Asher oedd 53,400.
48
O lwyth Nafftali — disgynyddion Iachtseël, Gwni,
49
Jeser, a Shilem.
50
Cyfanswm Nafftali oedd 45,400.
51
Felly cyfanswm y dynion gafodd eu cyfri yn Israel oedd 601,730.
52
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
53
“Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y llwythau ar sail y ffigyrau yma.
54
Mae'r llwythau mwyaf i gael etifeddu mwy o dir na'r llwythau lleiaf. Mae faint o dir fydd pob llwyth yn ei gael yn seiliedig ar y ffigyrau yma.
55
Rhaid defnyddio coelbren wrth rannu'r tir, ond mae canlyniadau'r cyfrifiad i gael eu defnyddio i benderfynu faint o dir mae pob llwyth yn ei gael.
56
Bydd y tir mae'r llwythau bach a mawr yn ei etifeddu yn cael ei bennu drwy daflu coelbren.”
57
A dyma'r Lefiaid gafodd eu cyfrif — disgynyddion Gershon, Cohath a Merari.
58
A disgynyddion eraill Lefi — y Libniaid, Hebroniaid, Machliaid, Mwshiaid a Corahiaid. Cohath oedd tad Amram,
59
ac enw gwraig Amram oedd Iochefed, merch Lefi, gafodd ei geni yn yr Aifft. Wedyn plant Amram a Iochefed oedd Aaron, Moses, a Miriam eu chwaer.
60
Roedd Aaron yn dad i Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar.
61
Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD.
62
Roedd 23,000 o Lefiaid — pob dyn a bachgen oedd dros fis oed. Doedden nhw ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel, am fod dim tir i gael ei roi iddyn nhw fel i weddill llwythau Israel.
63
Felly dyna ffigyrau'r cyfrifiad wnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad, pan oedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.
64
Doedd neb o'r dynion gafodd eu cyfrif y tro yma, wedi eu cynnwys yn y cyfrifiad cyntaf wnaeth Moses ac Aaron yn anialwch Sinai.
65
Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, “Byddan nhw i gyd yn marw yn yr anialwch!” A doedd neb ohonyn nhw ar ôl, ar wahân i Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36