bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Numbers 3
Numbers 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 4 →
1
Dyma hanes teulu Aaron a Moses pan wnaeth yr ARGLWYDD siarad gyda Moses ar Fynydd Sinai:
2
Enwau meibion Aaron oedd Nadab (y mab hynaf), Abihw, Eleasar ac Ithamar.
3
Cawson nhw eu heneinio a'u cysegru i wasanaethu fel offeiriaid.
4
Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw yn anialwch Sinai wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD. Doedd ganddyn nhw ddim plant. Felly Eleasar ac Ithamar oedd yn gwasanaethu fel offeiriaid gyda'u tad Aaron.
5
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
6
“Tyrd â llwyth Lefi at Aaron, a'u rhoi nhw iddo fel ei helpwyr.
7
Byddan nhw'n gwasanaethu Aaron a'r bobl i gyd o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Nhw fydd yn gyfrifol am wneud yr holl waith yn y Tabernacl.
8
Byddan nhw'n gofalu am holl offer Pabell Presenoldeb Duw, ac yn gwasanaethu yn y Tabernacl ar ran pobl Israel.
9
Rwyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion fel eu helpwyr. Maen nhw i weithio iddo fe a neb arall.
10
Aaron a'i feibion sydd i'w penodi'n offeiriaid. Os ydy unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos at y cysegr, y gosb ydy marwolaeth.”
11
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
12
“Dw i wedi cymryd y Lefiaid i mi fy hun, yn lle'r mab cyntaf i ddod allan o groth pob gwraig yn Israel. Fi piau'r Lefiaid,
13
am mai fi piau pob mab cyntaf. Ro'n i wedi cysegru pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni i mi fy hun, pan wnes i ladd y rhai cyntaf i gael eu geni yng ngwlad yr Aifft. Felly fi piau pob un cyntaf i gael ei eni. Fi ydy'r ARGLWYDD.”
14
Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda Moses yn anialwch Sinai:
15
“Dw i eisiau i ti gyfri'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd estynedig a'i claniau — pob dyn, a phob bachgen sydd dros fis oed.”
16
Felly dyma Moses yn eu cyfri nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
17
Enwau meibion Lefi oedd Gershon, Cohath a Merari.
18
Enwau claniau meibion Gershon oedd Libni a Shimei.
19
Enwau claniau meibion Cohath oedd Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel.
20
Enwau claniau meibion Merari oedd Machli a Mwshi. Y rhain oedd teuluoedd Lefi yn ôl eu claniau.
21
Disgynyddion Gershon oedd claniau Libni a Simei —
22
sef 7,500 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed.
23
Roedd teuluoedd y Gershoniaid i wersylla tu ôl i'r Tabernacl, i'r gorllewin.
24
Ac arweinydd y Gershoniaid oedd Eliasaff fab Laël.
25
Cyfrifoldeb y Gershoniaid oedd pabell y Tabernacl, y gorchudd, y sgrîn o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw,
26
llenni'r iard oedd o gwmpas y Tabernacl a'r allor, y sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard, y rhaffau, a popeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain.
27
Disgynyddion Cohath oedd claniau Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel —
28
sef 8,600 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr.
29
Roedd teuluoedd y Cohathiaid i wersylla i'r de o'r Tabernacl.
30
Ac arweinydd y Cohathiaid oedd Elitsaffan fab Wssiel.
31
Nhw oedd yn gyfrifol am yr Arch, y bwrdd, y menora (sef y stand i'r lampau), yr allorau, unrhyw offer oedd yn cael ei ddefnyddio yn y cysegr, y gorchudd mewnol, a popeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain.
32
Eleasar, mab Aaron oedd pennaeth arweinwyr y Lefiaid. Roedd ganddo gyfrifoldeb arbennig i oruchwylio'r rhai oedd yn gyfrifol am y cysegr.
33
Disgynyddion Merari oedd claniau Machli a Mwshi —
34
sef 6,200 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed.
35
Arweinydd y Merariaid oedd Swriel fab Afichaïl. Roedden nhw i wersylla i'r gogledd o'r Tabernacl.
36
Cyfrifoldeb y Merariaid oedd fframiau'r Tabernacl, y croesfarrau, y polion, y socedi, y llestri i gyd, a popeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain.
37
Hefyd, polion yr iard i gyd, gyda'i socedi, pegiau a rhaffau.
38
Yr unig rai oedd i wersylla ar yr ochr ddwyreiniol, o flaen y Tabernacl, oedd Moses ac Aaron a'i feibion. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr ar ran pobl Israel. Os oedd unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos at y cysegr, y gosb oedd marwolaeth.
39
Nifer y Lefiaid i gyd, gafodd eu cyfri gan Moses ac Aaron, oedd 22,000 o ddynion a bechgyn dros un mis oed.
40
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i eisiau i ti gyfri pob un o'r Israeliaid sy'n fab hynaf, o un mis oed i fyny. A cofrestru enw pob un.
41
Mae'r Lefiaid i gael eu rhoi i mi yn lle meibion hynaf yr Israeliaid — cofia mai fi ydy'r ARGLWYDD. A fi piau anifeiliaid y Lefiaid hefyd, yn lle pob anifail cyntaf i gael ei eni i anifeiliaid pobl Israel.”
42
Felly dyma Moses yn cyfrif pob un o feibion hynaf yr Israeliaid, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
43
Y nifer gafodd eu cyfrif a'u cofrestru oedd 22,273.
44
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
45
“Cymer y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid nhw. Fi fydd piau'r Lefiaid. Fi ydy'r ARGLWYDD.
46
Mae nifer y meibion hynaf ddau gant saith deg tri yn fwy na nifer y Lefiaid. Rwyt i brynu rhyddid i'r dau gant saith deg tri
47
drwy gasglu pum darn arian am bob un ohonyn nhw. Dylid ei dalu gydag arian y cysegr, sef darnau arian sy'n pwyso dau ddeg gera yr un.
48
Rho'r arian yma i Aaron a'i feibion.”
49
Felly dyma Moses yn casglu'r arian i brynu'n rhydd y meibion hynaf oedd dros ben.
50
Casglodd 1,365 sicl, sef tua un deg pump cilogram o arian.
51
Yna dyma Moses yn rhoi'r arian i Aaron a'i feibion, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36