bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Numbers 7
Numbers 7
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 8 →
1
Ar y diwrnod pan oedd Moses wedi gorffen codi'r Tabernacl, dyma fe'n eneinio a chysegru'r cwbl — y Tabernacl ei hun a'r holl ddodrefn ynddo, a'r allor a'i holl offer.
2
Yna dyma arweinwyr Israel yn dod i wneud offrwm (Nhw oedd yr arweinwyr oedd wedi bod yn goruchwylio'r cyfrifiad.)
3
Dyma nhw'n dod â chwe wagen gyda tho, a deuddeg ychen — sef un wagen ar gyfer dau arweinydd, a tharw bob un. A dyma nhw'n eu cyflwyno nhw i'r ARGLWYDD o flaen y Tabernacl.
4
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
5
“Derbyn yr ychen a'r wagenni yma ganddyn nhw, i'w defnyddio yng ngwaith y Tabernacl. Rhanna nhw rhwng y Lefiaid, iddyn nhw allu gwneud y gwaith sydd gan bob un i'w wneud.”
6
Felly dyma Moses yn derbyn y wagenni a'r ychen, a'u rhoi nhw i'r Lefiaid.
7
Dwy wagen a pedwar ychen i'r Gershoniaid, i wneud eu gwaith.
8
Dwy wagen a pedwar ychen i'r Merariaid, i wneud eu gwaith nhw, gyda Ithamar fab Aaron yr offeiriad yn eu goruchwylio.
9
Ond gafodd y Cohathiaid ddim wagenni nac ychen. Roedden nhw i fod i gario pethau cysegredig y Tabernacl ar eu hysgwyddau.
10
Cyflwynodd yr arweinwyr roddion pan gafodd yr allor ei heneinio a'i chysegru hefyd. Dyma nhw i gyd yn gosod eu rhoddion o flaen yr allor.
11
Achos roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Rhaid i bob arweinydd gyflwyno offrwm ar gyfer cysegru'r allor. Mae pob un ohonyn nhw i wneud hynny ar ddiwrnod gwahanol.”
12
[12-83] Dyma pwy wnaeth gyflwyno eu hoffrwm, ac ar ba ddiwrnod: [Diwrnod] — [Llwyth] — [Arweinydd] 1af — Jwda — Nachshon fab Aminadab 2il — Issachar — Nethanel fab Tswár 3ydd — Sabulon — Eliab fab Chelon 4ydd — Reuben — Elisur fab Shedeŵr 5ed — Simeon — Shelwmiel fab Swrishadai 6ed — Gad — Eliasaff fab Dewel 7fed — Effraim — Elishama fab Amihwd 8fed — Manasse — Gamaliel fab Pedatswr 9fed — Benjamin — Abidan fab Gideoni 10fed — Dan — Achieser fab Amishadai 11eg — Asher — Pagiel fab Ochran 12fed — Nafftali — Achira fab Enan Roedd offrwm pawb yr un fath: Plât arian yn pwyso cilogram a hanner a powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram. Roedd y ddau yn llawn o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd i'w gyflwyno fel offrwm o rawn. Padell aur yn pwyso can gram. Roedd hon yn llawn arogldarth. Un tarw ifanc, un hwrdd, ac un oen gwryw blwydd oed, yn offrwm i'w losgi'n llwyr. Un bwch gafr yn offrwm puro. A dau ychen, pum hwrdd, pum bwch gafr, a pum oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
84
[84-88] Felly cyfanswm yr offrymau gyflwynodd arweinwyr Israel pan gafodd yr allor ei heneinio oedd: — un deg dau plât arian yn pwyso cilogram a hanner yr un — un deg dwy powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram yr un (Felly roedd y llestri arian i gyd yn pwyso dau ddeg saith cilogram, yn ôl pwysau safonol y cysegr) — un deg dwy badell aur yn llawn o arogldarth, yn pwyso can gram yr un (Felly roedd y padellau aur i gyd yn pwyso un cilogram a dau gan gram yn ôl pwysau safonol y cysegr) — un deg dau tarw ifanc, un deg dau hwrdd ac un deg dau oen gwryw blwydd oed yn offrymau i'w llosgi'n llwyr — pob un gyda'i offrwm o rawn — un deg dau bwch gafr yn offrymau puro — dau ddeg pedwar tarw ifanc, chwe deg hwrdd, chwe deg bwch gafr a chwe deg oen gwryw blwydd oed yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyna'r rhoddion gafodd eu cyflwyno pan oedd yr allor yn cael ei chysegru a'i heneinio.
89
Pan aeth Moses i mewn i Babell Presenoldeb Duw i siarad â'r ARGLWYDD, clywodd lais yn siarad gydag e. Roedd y llais yn dod o rywle uwch ben caead Arch y dystiolaeth oedd rhwng y ddau geriwb. Roedd yn siarad gyda Moses.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36