bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Kings 1
2 Kings 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 2 →
1
Yna Moab a wrthryfelodd yn erbyn Israel, wedi marwolaeth Ahab.
2
Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o'i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal‐sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o'r clefyd hwn.
3
Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd DUW yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron?
4
Ac am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ni ddisgynni o'r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw. Ac Eleias a aeth ymaith.
5
A phan ddychwelodd y cenhadau ato ef, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y dychwelasoch chwi?
6
A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i'n cyfarfod ni, ac a ddywedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a'ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai am nad oes DUW yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o'r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.
7
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fyny i'ch cyfarfod chwi, ac a lefarodd wrthych yr ymadroddion yma?
8
A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywedodd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe.
9
Yna efe a anfonodd ato ef dywysog ar ddeg a deugain, ynghyd a'i ddeg a deugain: ac efe a aeth i fyny ato ef; (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn;) ac a lefarodd wrtho, Ti ŵr DUW, y brenin a lefarodd, Tyred i waered.
10
Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr DUW ydwyf fi, disgynned tân o'r nefoedd, ac ysed di a'th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o'r nefoedd, ac a'i hysodd ef a'i ddeg a deugain.
11
A'r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, â'i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr DUW, fel hyn y dywedodd y brenin, Tyred i waered yn ebrwydd.
12
Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr DUW ydwyf fi, disgynned tân o'r nefoedd, ac ysed di a'th ddeg a deugain. A thân DUW a ddisgynnodd o'r nefoedd, ac a'i hysodd ef a'i ddeg a deugain.
13
A'r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, â'i ddeg a deugain: a'r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr DUW, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di.
14
Wele, disgynnodd tân o'r nefoedd, ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain, a'u deg a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di.
15
Ac angel yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin.
16
Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron, (ai am nad oes DUW yn Israel i ymofyn â'i air?) am hynny ni ddisgynni o'r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.
17
Felly efe a fu farw, yn ôl gair yr ARGLWYDD yr hwn a lefarasai Eleias: a Jehoram a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ail flwyddyn i Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda; am nad oedd mab iddo ef.
18
A'r rhan arall o weithredoedd Ahaseia y rhai a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25