bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Kings 23
2 Kings 23
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 24 →
1
A'r brenin a anfonodd, a holl henuriaid Jwda a Jerwsalem a ymgynullasant ato ef.
2
A'r brenin a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD, a holl wŷr Jwda, a holl drigolion Jerwsalem gydag ef, yr offeiriaid hefyd, a'r proffwydi, a'r holl bobl o fychan hyd fawr: ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr ARGLWYDD.
3
A'r brenin a safodd wrth y golofn, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr ARGLWYDD, ar fyned ar ôl yr ARGLWYDD, ac ar gadw ei orchmynion ef, a'i dystiolaethau, a'i ddeddfau, â'i holl galon, ac â'i holl enaid, i gyflawni geiriau y cyfamod hwn, y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. A'r holl bobl a safodd wrth y cyfamod.
4
A'r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr archoffeiriad, ac i'r offeiriaid o'r ail radd, ac i geidwaid y drws, ddwyn allan o deml yr ARGLWYDD yr holl lestri a wnaethid i Baal, ac i'r llwyn, ac i holl lu'r nefoedd: ac efe a'u llosgodd hwynt o'r tu allan i Jerwsalem, ym meysydd Cidron, ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel.
5
Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd, yn ninasoedd Jwda, ac yn amgylchoedd Jerwsalem: a'r rhai oedd yn arogldarthu i Baal, i'r haul, ac i'r lleuad, ac i'r planedau, ac i holl lu'r nefoedd.
6
Efe a ddug allan hefyd y llwyn o dŷ yr ARGLWYDD, i'r tu allan i Jerwsalem, hyd afon Cidron, ac a'i llosgodd ef wrth afon Cidron, ac a'i malodd yn llwch, ac a daflodd ei lwch ar feddau meibion y bobl.
7
Ac efe a fwriodd i lawr dai y sodomiaid, y rhai oedd wrth dŷ yr ARGLWYDD, lle yr oedd y gwragedd yn gwau cortynnau i'r llwyn.
8
Ac efe a ddug yr holl offeiriaid allan o ddinasoedd Jwda, ac a halogodd yr uchelfeydd yr oedd yr offeiriaid yn arogldarthu arnynt, o Geba hyd Beerseba, ac a ddistrywiodd uchelfeydd y pyrth, y rhai oedd wrth ddrws porth Josua tywysog y ddinas, y rhai oedd ar y llaw aswy i bawb a ddelai i borth y ddinas.
9
Eto offeiriaid yr uchelfeydd ni ddaethant i fyny at allor yr ARGLWYDD i Jerwsalem, ond hwy a fwytasant fara croyw ymysg eu brodyr.
10
Ac efe a halogodd Toffeth, yr hon sydd yn nyffryn meibion Hinnom, fel na thynnai neb ei fab na'i ferch trwy dân i Moloch.
11
Ac efe a ddifethodd y meirch a roddasai brenhinoedd Jwda i'r haul, wrth ddyfodfa tŷ yr ARGLWYDD, wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd, yr hwn oedd yn y pentref, ac a losgodd gerbydau yr haul yn tân.
12
Yr allorau hefyd, y rhai oedd ar nen ystafell Ahas, y rhai a wnaethai brenhinoedd Jwda, a'r allorau a wnaethai Manasse yn nau gyntedd tŷ yr ARGLWYDD, a ddistrywiodd y brenin, ac a'u bwriodd hwynt i lawr oddi yno, ac a daflodd eu llwch hwynt i afon Cidron.
13
Y brenin hefyd a ddifwynodd yr uchelfeydd oedd ar gyfer Jerwsalem, y rhai oedd o'r tu deau i fynydd y llygredigaeth, y rhai a adeiladasai Solomon brenin Israel i Astoreth ffieidd‐dra'r Sidoniaid, ac i Cemos ffieidd‐dra'r Moabiaid, ac i Milcom ffieidd‐dra meibion Ammon.
14
Ac efe a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a lanwodd eu lle hwynt ag esgyrn dynion.
15
Yr allor hefyd, yr hon oedd yn Bethel, a'r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ie, yr allor honno a'r uchelfa a ddistrywiodd efe, ac a losgodd yr uchelfa, ac a'i malodd yn llwch, ac a losgodd y llwyn.
16
A Joseia a edrychodd, ac a ganfu feddau, y rhai oedd yno yn y mynydd, ac a anfonodd, ac a gymerth yr esgyrn o'r beddau, ac a'u llosgodd ar yr allor, ac a'i halogodd hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD yr hwn a gyhoeddasai gŵr DUW, yr hwn a bregethasai y geiriau hyn.
17
Yna efe a ddywedodd, Pa deitl yw hwn yr ydwyf fi yn ei weled? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho, Bedd gŵr DUW, yr hwn a ddaeth o Jwda, ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor Bethel, ydyw.
18
Ac efe a ddywedodd, Gadewch ef yn llonydd: nac ymyrred neb â'i esgyrn ef. Felly yr achubasant ei esgyrn ef, gydag esgyrn y proffwyd a ddaethai o Samaria.
19
Joseia hefyd a dynnodd ymaith holl dai yr uchelfeydd, y rhai oedd yn ninasoedd Samaria, y rhai a wnaethai brenhinoedd Israel i ddigio yr ARGLWYDD, ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethai efe yn Bethel.
20
Ac efe a laddodd holl offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, ar yr allorau, ac a losgodd esgyrn dynion arnynt, ac a ddychwelodd i Jerwsalem.
21
A'r brenin a orchmynnodd i'r holl bobl, gan ddywedyd, Gwnewch Basg i'r ARGLWYDD eich DUW, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y cyfamod hwn.
22
Yn ddiau ni wnaed y fath Basg â hwn, er dyddiau y barnwyr a farnasant Israel, nac yn holl ddyddiau brenhinoedd Israel, na brenhinoedd Jwda.
23
Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.
24
Y swynyddion hefyd, a'r dewiniaid, a'r delwau, a'r eilunod, a'r holl ffieidd‐dra, y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda, ac yn Jerwsalem, a dynnodd Joseia ymaith: fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hilceia yr offeiriad yn nhŷ yr ARGLWYDD.
25
Ac ni bu o'i flaen frenin o'i fath ef, yr hwn a drodd at yr ARGLWYDD â'i holl galon, ac â'i holl enaid, ac â'i holl egni, yn ôl cwbl o gyfraith Moses; ac ar ei ôl ef ni chyfododd ei fath ef.
26
Er hynny ni throdd yr ARGLWYDD oddi wrth lid ei ddigofaint mawr, trwy yr hwn y llidiodd ei ddicllonedd ef yn erbyn Jwda, oherwydd yr holl ddicter trwy yr hwn y digiasai Manasse ef.
27
A dywedodd yr ARGLWYDD, Jwda hefyd a fwriaf ymaith o'm golwg, fel y bwriais ymaith Israel, ac a wrthodaf y ddinas hon Jerwsalem, yr hon a ddetholais, a'r tŷ am yr hwn y dywedais, Fy enw a fydd yno.
28
A'r rhan arall o hanes Joseia, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
29
Yn ei ddyddiau ef y daeth Pharo‐Necho brenin yr Aifft i fyny yn erbyn brenin Asyria, hyd afon Ewffrates: a'r brenin Joseia a aeth i'w gyfarfod ef, a Pharo a'i lladdodd ef ym Megido, pan ei gwelodd ef.
30
A'i weision a'i dygasant ef mewn cerbyd yn farw o Megido, ac a'i dygasant ef i Jerwsalem, ac a'i claddasant ef yn ei feddrod ei hun. A phobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a'i heneiniasant ef, ac a'i hurddasant yn frenin yn lle ei dad.
31
Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan aeth efe yn frenin, a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.
32
Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau ef.
33
A Pharo‐Necho a'i rhwymodd ef yn Ribla yng ngwlad Hamath, fel na theyrnasai efe yn Jerwsalem: ac a osododd dreth ar y wlad o gan talent o arian, a thalent o aur.
34
A Pharo‐Necho a osododd Eliacim mab Joseia yn frenin yn lle Joseia ei dad, ac a drodd ei enw ef Joacim: ac efe a ddug ymaith Joahas, ac efe a ddaeth i'r Aifft, ac yno y bu efe farw.
35
A Joacim a roddodd i Pharo yr arian, a'r aur; ond efe a drethodd y wlad i roddi yr arian wrth orchymyn Pharo: efe a gododd yr arian a'r aur ar bobl y wlad, ar bob un yn ôl ei dreth, i'w rhoddi i Pharo‐Necho.
36
Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sebuda, merch Pedaia o Ruma.
37
Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25