bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Kings 3
2 Kings 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 4 →
1
A Jehoram mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda, ac a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd.
2
Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond nid fel ei dad nac fel ei fam: canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal, yr hon a wnaethai ei dad.
3
Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy.
4
A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn, a chan mil o hyrddod gwlanog.
5
Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel.
6
A'r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria, ac a gyfrifodd holl Israel.
7
Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda, gan ddywedyd, Brenin Moab a wrthryfelodd i'm herbyn i: a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab? Dywedodd yntau, Mi a af i fyny; myfi a fyddaf fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.
8
Ac efe a ddywedodd, Pa ffordd yr awn ni i fyny? Dywedodd yntau, Ffordd anialwch Edom.
9
Felly yr aeth brenin Israel, a brenin Jwda, a brenin Edom; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i'r fyddin, nac i'r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt.
10
A brenin Israel a ddywedodd, Gwae fi! oherwydd i'r ARGLWYDD alw y tri brenin hyn ynghyd i'w rhoddi yn llaw Moab.
11
A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma broffwyd i'r ARGLWYDD, fel yr ymofynnom ni â'r ARGLWYDD trwyddo ef? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yma Eliseus mab Saffat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias.
12
A Jehosaffat a ddywedodd, Y mae gair yr ARGLWYDD gydag ef. Felly brenin Israel, a Jehosaffat, a brenin Edom, a aethant i waered ato ef.
13
Ac Eliseus a ddywedodd wrth frenin Israel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi? dos at broffwydi dy dad, ac at broffwydi dy fam. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Nage: canys yr ARGLWYDD a alwodd y tri brenin hyn ynghyd i'w rhoddi yn llaw Moab.
14
Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda, nid edrychaswn i arnat ti, ac ni'th welswn.
15
Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw yr ARGLWYDD arno ef.
16
Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd.
17
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ni welwch wynt, ac ni welwch law; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr, fel yr yfoch chwi, a'ch anifeiliaid, a'ch ysgrubliaid.
18
A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr ARGLWYDD: efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd.
19
A chwi a drewch bob dinas gaerog, a phob dinas ddetholedig; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi, a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig.
20
A'r bore pan offrymwyd y bwyd‐offrwm, wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom; a'r wlad a lanwyd o ddyfroedd.
21
A phan glybu yr holl Foabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fyny i ymladd yn eu herbyn hwynt, y galwyd ynghyd bawb a'r a allai wisgo arfau, ac uchod, a hwy a safasant ar y terfyn.
22
A hwy a gyfodasant yn fore, a'r haul a gyfodasai ar y dyfroedd; a'r Moabiaid a ganfuant ar eu cyfer y dyfroedd yn goch fel gwaed:
23
A hwy a ddywedasant, Gwaed yw hwn: gan ddifetha y difethwyd y brenhinoedd, a hwy a drawsant bawb ei gilydd: am hynny yn awr at yr anrhaith, Moab.
24
A phan ddaethant at wersyll Israel, yr Israeliaid a gyfodasant ac a drawsant y Moabiaid, fel y ffoesant o'u blaen hwynt: a hwy a aethant rhagddynt, gan daro'r Moabiaid yn eu gwlad eu hun.
25
A hwy a ddistrywiasant y dinasoedd, ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garreg, ac a'i llanwasant; a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy, a phob pren da a gwympasant hwy i lawr: yn unig yn Cir‐haraseth y gadawsant ei cherrig; eto y rhai oedd yn taflu a'i hamgylchynasant, ac a'i trawsant hi.
26
A phan welodd brenin Moab fod y rhyfelwyr yn drech nag ef, efe a gymerth saith gant o wŷr gydag ef yn tynnu cleddyf, i ruthro ar frenin Edom: ond nis gallasant hwy.
27
Yna efe a gymerodd ei fab cyntaf‐anedig ef, yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef, ac a'i hoffrymodd ef yn boethoffrwm ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel: a hwy a aethant ymaith oddi wrtho ef, ac a ddychwelasant i'w gwlad eu hun.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25