bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Kings 20
2 Kings 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 21 →
1
Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw: ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw.
2
Yna efe a drodd ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
3
Atolwg, ARGLWYDD, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac â chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr.
4
A chyn myned o Eseia allan i'r cyntedd canol, daeth gair yr ARGLWYDD ato, gan ddywedyd,
5
Dychwel, a dywed wrth Heseceia blaenor fy mhobl i, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele fi yn dy iacháu di; y trydydd dydd yr ei di i fyny i dŷ yr ARGLWYDD.
6
A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd, ac a'th waredaf di a'r ddinas hon o law brenin Asyria: diffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.
7
A dywedodd Eseia, Cymerwch swp o ffigys. A hwy a gymerasant, ac a'i gosodasant ar y cornwyd, ac efe a aeth yn iach.
8
A Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Pa arwydd fydd yr iachâ yr ARGLWYDD fi, ac yr af fi i fyny i dŷ yr ARGLWYDD y trydydd dydd?
9
Ac Eseia a ddywedodd, Hyn fydd i ti yn argoel oddi wrth yr ARGLWYDD, y gwna yr ARGLWYDD y gair a lefarodd efe: A â y cysgod ddeg o raddau ymlaen, neu a ddychwel efe ddeg o raddau yn ôl?
10
A Heseceia a ddywedodd, Hawdd yw i'r cysgod ogwyddo ddeg o raddau: nid felly, ond dychweled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau.
11
Ac Eseia y proffwyd a lefodd ar yr ARGLWYDD: ac efe a drodd y cysgod ar hyd y graddau, ar hyd y rhai y disgynasai efe yn neial Ahas, ddeg o raddau yn ei ôl.
12
Yn yr amser hwnnw yr anfonodd Berodach‐Baladan, mab Baladan brenin Babilon, lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai fod Heseceia yn glaf.
13
A Heseceia a wrandawodd arnynt, ac a ddangosodd iddynt holl dŷ ei drysor, yr arian, a'r aur, a'r peraroglau, a'r olew gorau, a holl dŷ ei arfau, a'r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a'r nas dangosodd Heseceia iddynt.
14
Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat ti? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant hwy, sef o Babilon.
15
Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy: nid oes dim yn fy nhrysorau i nas dangosais iddynt hwy.
16
Ac Eseia a ddywedodd wrth Heseceia, Gwrando air yr ARGLWYDD.
17
Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a'r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr ARGLWYDD.
18
Cymerant hefyd o'th feibion di, y rhai a ddaw allan ohonot, y rhai a genhedli di, a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon.
19
Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Da yw gair yr ARGLWYDD, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i?
20
A'r rhan arall o hanes Heseceia, a'i holl rym ef, ac fel y gwnaeth efe y llyn, a'r pistyll, ac y dug efe y dyfroedd i'r ddinas, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
21
A Heseceia a hunodd gyda'i dadau: a Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25