bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Kings 7
2 Kings 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 8 →
1
Yna Eliseus a ddywedodd, Gwrandewch air yr ARGLWYDD: Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Ynghylch y pryd hwn yfory y gwerthir sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, ym mhorth Samaria.
2
Yna tywysog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei law a atebodd ŵr DUW, ac a ddywedodd, Wele, pe gwnelai yr ARGLWYDD ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a'i gweli â'th lygaid, ond ni fwytei ohono.
3
Ac yr oedd pedwar gŵr gwahanglwyfus wrth ddrws y porth, a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Paham yr ydym ni yn aros yma nes ein meirw?
4
Os dywedwn ni, Awn i mewn i'r ddinas, newyn sydd yn y ddinas, a ni a fyddwn feirw yno; ac os trigwn yma, ni a fyddwn feirw hefyd. Am hynny deuwch yn awr, ac awn i wersyll y Syriaid: o chadwant ni yn fyw, byw fyddwn; ac os lladdant ni, byddwn feirw.
5
A hwy a gyfodasant ar doriad dydd i fyned i wersyll y Syriaid. A phan ddaethant at gwr eithaf gwersyll y Syriaid, wele, nid oedd neb yno.
6
Canys yr ARGLWYDD a barasai i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau, a thrwst meirch, trwst llu mawr: a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Wele, brenin Israel a gyflogodd i'n herbyn ni frenhinoedd yr Hethiaid, a brenhinoedd yr Aifft, i ddyfod arnom ni.
7
Am hynny hwy a gyfodasant, ac a ffoesant, ar lasiad dydd, ac a adawsant eu pebyll, a'u meirch, a'u hasynnod, sef y gwersyll fel yr ydoedd, ac a ffoesant am eu heinioes.
8
A phan ddaeth y rhai gwahanglwyfus hyn hyd gwr eithaf y gwersyll, hwy a aethant i un babell, ac a fwytasant, ac a yfasant, ac a gymerasant oddi yno arian, ac aur, a gwisgoedd, ac a aethant, ac a'i cuddiasant, ac a ddychwelasant; ac a aethant i babell arall, ac a gymerasant oddi yno, ac a aethant, ac a'i cuddiasant.
9
Yna y dywedodd y naill wrth y llall, Nid ydym ni yn gwneuthur yn iawn; y dydd hwn sydd ddydd llawen‐chwedl, ac yr ydym ni yn tewi â sôn; os arhoswn ni hyd oleuni y bore, rhyw ddrwg a ddigwydd i ni: deuwch gan hynny yn awr, ac awn fel y mynegom i dŷ y brenin.
10
Felly hwy a ddaethant, ac a waeddasant ar borthor y ddinas; a hwy a fynegasant iddynt, gan ddywedyd, Daethom i wersyll y Syriaid, ac wele, nid oedd yno neb, na llais dyn, ond y meirch yn rhwym, a'r asynnod yn rhwym, a'r pebyll megis yr oeddynt o'r blaen.
11
Ac efe a alwodd ar y porthorion; a hwy a'i mynegasant i dŷ y brenin oddi fewn.
12
A'r brenin a gyfododd liw nos, ac a ddywedodd wrth ei weision, Mynegaf yn awr i chwi yr hyn a wnaeth y Syriaid i ni. Gwyddent mai newynog oeddem ni; am hynny yr aethant ymaith o'r gwersyll i ymguddio yn y maes, gan ddywedyd, Pan ddelont hwy allan o'r ddinas, ni a'u daliwn hwynt yn fyw, ac a awn i mewn i'r ddinas.
13
Ac un o'r gweision a atebodd ac a ddywedodd, Cymer yn awr bump o'r meirch a adawyd, y rhai a adawyd yn y ddinas, (wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a arosasant ynddi; wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a ddarfuant;) ac anfonwn, ac edrychwn.
14
Felly hwy a gymerasant feirch dau gerbyd: a'r brenin a anfonodd ar ôl gwersyll y Syriaid, gan ddywedyd, Ewch ac edrychwch.
15
A hwy a aethant ar eu hôl hwynt hyd yr Iorddonen, ac wele, yr holl ffordd ydoedd yn llawn o ddillad a llestri, y rhai a fwriasai y Syriaid ymaith wrth frysio: a'r cenhadau a ddychwelasant ac a fynegasant i'r brenin.
16
A'r bobl a aethant allan, ac a anrheithiasant wersyll y Syriaid: a bu sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
17
A'r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwyso ar ei law i wylied ar y porth: a'r bobl a'i mathrasant ef yn y porth, ac efe fu farw, megis y llefarasai gŵr DUW, yr hwn a ddywedasai hynny pan ddaeth y brenin i waered ato ef.
18
A bu megis y llefarasai gŵr DUW wrth y brenin, gan ddywedyd, Dau sat o haidd er sicl, a sat o beilliaid er sicl, fydd y pryd hwn yfory ym mhorth Samaria.
19
A'r tywysog a atebasai ŵr DUW, ac a ddywedasai, Wele, pe gwnelai yr ARGLWYDD ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a'i gweli â'th lygaid, ond ni fwytei ohono.
20
Ac felly y bu iddo ef: canys y bobl a'i sathrasant ef yn y porth, ac efe a fu farw.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25