bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Kings 2
2 Kings 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 3 →
1
A phan oedd yr ARGLWYDD ar gymryd i fyny Eleias mewn corwynt i'r nefoedd, aeth Eleias ac Eliseus allan o Gilgal.
2
Ac Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Aros, atolwg, yma: canys yr ARGLWYDD a'm hanfonodd i Bethel. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a aethant i waered i Bethel.
3
A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Bethel, a ddaethant allan at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Dywedodd yntau, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â sôn.
4
Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus; canys yr ARGLWYDD a'm hanfonodd i Jericho. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho.
5
A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Jericho, a ddaethant at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr ARGLWYDD yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Yntau a ddywedodd, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â sôn.
6
Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg; canys yr ARGLWYDD a'm hanfonodd i'r Iorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. A hwy a aethant ill dau rhagddynt.
7
A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell: a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen.
8
Ac Eleias a gymerth ei fantell, ac a'i plygodd ynghyd, ac a drawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma ac acw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych.
9
Ac wedi iddynt fyned drosodd, Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymryd oddi wrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hynny, atolwg, ddau parth o'th ysbryd di arnaf fi.
10
Dywedodd yntau, Gofynnaist beth anodd: os gweli fi wrth fy nghymryd oddi wrthyt, fe fydd i ti felly; ac onid e, ni bydd.
11
Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a'u gwahanasant hwynt ill dau. Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i'r nefoedd.
12
Ac Eliseus oedd yn gweled, ac efe a lefodd, Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a'i farchogion. Ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac a'u rhwygodd yn ddeuddarn.
13
Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen.
14
Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd, Pa le y mae ARGLWYDD DDUW Eleias? Ac wedi iddo yntau daro'r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd.
15
A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i'w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo.
16
A hwy a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, y mae gyda'th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion; elont yn awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ysbryd yr ARGLWYDD ei ddwyn ef, a'i fwrw ar ryw fynydd, neu mewn rhyw ddyffryn. Dywedodd yntau, Na anfonwch.
17
Eto buant daer arno, nes cywilyddio ohono, ac efe a ddywedodd, Anfonwch. A hwy a anfonasant ddengwr a deugain, y rhai a'i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant.
18
A hwy a ddychwelasant ato ef, ac efe oedd yn aros yn Jericho; ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Oni ddywedais i wrthych, Nac ewch?
19
A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus, Wele, atolwg, ansawdd y ddinas, da yw, fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond y dyfroedd sydd ddrwg, a'r tir yn ddiffaith.
20
Ac efe a ddywedodd, Dygwch i mi ffiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a'i dygasant ato ef.
21
Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Mi a iacheais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach, na diffrwythdra.
22
Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn, yn ôl gair Eliseus, yr hwn a ddywedasai efe.
23
Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel: ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o'r ddinas, ac a'i gwatwarasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, Dos i fyny, moelyn, dos i fyny, moelyn.
24
Ac efe a drodd yn ei ôl, ac a edrychodd arnynt, ac a'u melltithiodd yn enw yr ARGLWYDD. A dwy arth a ddaeth allan o'r goedwig, ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain.
25
Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel, ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25