bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Kings 12
2 Kings 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 13 →
1
Yn y seithfed flwyddyn i Jehu y dechreuodd Joas deyrnasu, a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba.
2
A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei holl ddyddiau, yn y rhai y dysgodd Jehoiada yr offeiriad ef.
3
Er hynny ni thynasid ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.
4
A Joas a ddywedodd wrth yr offeiriaid, Holl arian y pethau cysegredig a ddyger i mewn i dŷ yr ARGLWYDD, arian y gŵr a gyniweirio, arian gwerth eneidiau pob un, a'r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dŷ yr ARGLWYDD;
5
Cymered yr offeiriaid hynny iddynt, pawb gan ei gydnabod, a chyweiriant adwyau y tŷ, pa le bynnag y caffer adwy ynddo.
6
Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain i'r brenin Joas, nid adgyweiriasai yr offeiriaid agennau y tŷ.
7
Yna y brenin Joas a alwodd am Jehoiada yr offeiriad, a'r offeiriaid eraill, ac a ddywedodd wrthynt, Paham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y tŷ? yn awr gan hynny, na dderbyniwch arian gan eich cydnabod, ond rhoddwch hwy at gyweirio adwyau y tŷ.
8
A'r offeiriaid a gydsyniasant na dderbynient arian gan y bobl, ac na chyweirient agennau y tŷ.
9
Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymerth gist, ac a dyllodd dwll yn ei chaead, ac a'i gosododd hi o'r tu deau i'r allor, ffordd y delai un i mewn i dŷ yr ARGLWYDD: a'r offeiriaid, y rhai oedd yn cadw y drws, a roddent yno yr holl arian a ddygid i mewn i dŷ yr ARGLWYDD.
10
A phan welent fod llawer o arian yn y gist, y deuai ysgrifennydd y brenin, a'r archoffeiriad, i fyny, ac a roent mewn codau, ac a gyfrifent yr arian a gawsid yn nhŷ yr ARGLWYDD.
11
A hwy a roddasant yr arian wedi eu cyfrif, yn nwylo gweithwyr y gwaith, goruchwylwyr tŷ yr ARGLWYDD: a hwy a'i talasant i'r seiri pren, ac i'r adeiladwyr oedd yn gweithio tŷ yr ARGLWYDD.
12
Ac i'r seiri meini, ac i'r naddwyr cerrig, ac i brynu coed a cherrig nadd, i gyweirio adwyau tŷ yr ARGLWYDD, ac am yr hyn oll a aethai allan i adgyweirio y tŷ.
13
Eto ni wnaed yn nhŷ yr ARGLWYDD gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, na llestri aur, na llestri arian, o'r arian a ddygasid i mewn i dŷ yr ARGLWYDD.
14
Eithr hwy a'i rhoddasant i weithwyr y gwaith; ac a gyweiriasant â hwynt dŷ yr ARGLWYDD.
15
Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y rhoddasant hwy yr arian yn eu dwylo i'w rhoddi i weithwyr y gwaith: canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.
16
Yr arian dros gamwedd a'r arian dros bechodau, ni dducpwyd i mewn i dŷ yr ARGLWYDD: eiddo yr offeiriaid oeddynt hwy.
17
Yna Hasael brenin Syria a aeth i fyny, ac a ymladdodd yn erbyn Gath, ac a'i henillodd hi: a Hasael a osododd ei wyneb i fyned i fyny yn erbyn Jerwsalem.
18
A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosaffat, a Jehoram, ac Ahaseia, ei dadau ef, brenhinoedd Jwda, a'i gysegredig bethau ef ei hun, a'r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a'u hanfonodd at Hasael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem.
19
A'r rhan arall o hanes Joas, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
20
A'i weision ef a gyfodasant, ac a gydfwriadasant fradwriaeth; ac a laddasant Joas yn nhŷ Milo, wrth ddyfod i waered i Sila.
21
A Josachar mab Simeath, a Josabad mab Somer, ei weision ef, a'i trawsant ef, ac efe a fu farw; a hwy a'i claddasant ef gyda'i dadau yn ninas Dafydd: ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25