bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Kings 14
2 Kings 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 15 →
1
Yn yr ail flwyddyn i Joas mab Joahas brenin Israel y teyrnasodd Amaseia mab Joas brenin Jwda.
2
Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Joadan o Jerwsalem.
3
Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, eto nid fel Dafydd ei dad; ond efe a wnaeth yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joas ei dad ef.
4
Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.
5
A phan sicrhawyd ei deyrnas yn ei law ef, efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dad ef.
6
Ond ni laddodd efe feibion y lleiddiaid; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yn yr hon y gorchmynasai yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Na ladder y tadau dros y meibion, ac na ladder y meibion dros y tadau; ond lladder pob un am ei bechod ei hun.
7
Efe a drawodd o'r Edomiaid, yn nyffryn yr halen, ddeng mil, ac a enillodd y graig mewn rhyfel, ac a alwodd ei henw Joctheel, hyd y dydd hwn.
8
Yna Amaseia a anfonodd genhadau at Joas mab Joahas, mab Jehu, brenin Israel, gan ddywedyd, Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd.
9
A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i'm mab i yn wraig. A bwystfil y maes yr hwn oedd yn Libanus a dramwyodd ac a sathrodd yr ysgellyn.
10
Gan daro y trewaist yr Edomiaid, am hynny dy galon a'th falchïodd: ymffrostia, ac eistedd yn dy dŷ: canys i ba beth yr ymyrri i'th ddrwg dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi?
11
Ond ni wrandawai Amaseia. Am hynny Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Beth‐semes, yr hon sydd yn Jwda.
12
A Jwda a drawyd o flaen Israel; a hwy a ffoesant bawb i'w pebyll.
13
A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda, mab Joas, mab Ahaseia, yn Beth‐semes, ac a ddaeth i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem, o borth Effraim hyd borth y gongl, bedwar can cufydd.
14
Ac efe a gymerth yr holl aur a'r arian, a'r holl lestri a'r a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, a gwystlon, ac a ddychwelodd i Samaria.
15
A'r rhan arall o hanes Joas, yr hyn a wnaeth efe, a'i gadernid, ac fel yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
16
A Joas a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel; a Jeroboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
17
Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw ar ôl marwolaeth Joas mab Joahas brenin Israel bymtheng mlynedd.
18
A'r rhan arall o hanes Amaseia, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
19
Ond hwy a fradfwriadasant yn ei erbyn ef yn Jerwsalem; ac efe a ffodd i Lachis: eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a'i lladdasant ef yno.
20
A hwy a'i dygasant ef ar feirch, ac efe a gladdwyd yn Jerwsalem gyda'i dadau, yn ninas Dafydd.
21
A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a'i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad.
22
Efe a adeiladodd Elath, ac a'i rhoddodd hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o'r brenin gyda'i dadau.
23
Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia mab Joas brenin Jwda y teyrnasodd Jeroboam mab Joas brenin Israel yn Samaria; un flynedd a deugain y teyrnasodd efe.
24
Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni chiliodd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
25
Efe a ddug adref derfyn Israel o'r lle yr eir i mewn i Hamath hyd fôr y rhos, yn ôl gair ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Jona mab Amittai y proffwyd, yr hwn oedd o Gath‐Heffer.
26
Canys yr ARGLWYDD a welodd gystudd Israel yn flin iawn: canys nid oedd neb gwarchaeëdig, na neb wedi ei adael, na chynorthwyydd i Israel.
27
Ac ni lefarasai yr ARGLWYDD y dileai efe enw Israel oddi tan y nefoedd: ond efe a'u gwaredodd hwynt trwy law Jeroboam mab Joas.
28
A'r rhan arall o hanes Jeroboam, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe, a'i gadernid ef, y modd y rhyfelodd efe, a'r modd y dug efe adref Damascus a Hamath, i Jwda yn Israel, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
29
A Jeroboam a hunodd gyda'i dadau, sef gyda brenhinoedd Israel; a Sachareia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25