bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Kings 16
2 Kings 16
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 17 →
1
Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Peca mab Remaleia y dechreuodd Ahas mab Jotham brenin Jwda deyrnasu.
2
Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW, fel Dafydd ei dad:
3
Eithr rhodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, ac a dynnodd ei fab trwy'r tân, yn ôl ffieidd‐dra'r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.
4
Ac efe a aberthodd ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.
5
Yna y daeth Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia brenin Israel, i fyny i Jerwsalem i ryfel; a hwy a warchaeasant ar Ahas; ond ni allasant hwy ei orchfygu ef.
6
Yn yr amser hwnnw Resin brenin Syria a ddug drachefn Elath at Syria, ac a yrrodd yr Iddewon o Elath: a'r Syriaid a ddaethant i Elath, ac a breswyliasant yno hyd y dydd hwn.
7
Yna Ahas a anfonodd genhadau at Tiglath‐pileser brenin Asyria, gan ddywedyd, Dy was di a'th fab di ydwyf fi: tyred i fyny, a gwared fi o law brenin Syria, ac o law brenin Israel, y rhai sydd yn cyfodi yn fy erbyn i.
8
Ac Ahas a gymerth yr arian a'r aur a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, ac a'u hanfonodd yn anrheg i frenin Asyria.
9
A brenin Asyria a wrandawodd arno ef; a brenin Asyria a ddaeth i fyny i Damascus, ac a'i henillodd hi, ac a gaethgludodd ei thrigolion i Cir, ac a laddodd Resin.
10
A'r brenin Ahas a aeth i Damascus i gyfarfod Tiglath‐pileser brenin Asyria, ac a welodd allor oedd yn Damascus: a'r brenin Ahas a anfonodd at Ureia yr offeiriad agwedd yr allor a'i phortreiad, yn ôl ei holl wneuthuriad.
11
Ac Ureia yr offeiriad a adeiladodd allor yn ôl yr hyn oll a anfonasai y brenin Ahas o Damascus: felly y gwnaeth Ureia yr offeiriad, erbyn dyfod y brenin Ahas o Damascus.
12
A phan ddaeth y brenin o Damascus, y brenin a ganfu yr allor: a'r brenin a nesaodd at yr allor, ac a offrymodd arni hi.
13
Ac efe a losgodd ei boethoffrwm, a'i fwyd‐offrwm, ac a dywalltodd ei ddiod‐offrwm, ac a daenellodd waed ei offrymau hedd ar yr allor.
14
A'r allor bres, yr hon oedd gerbron yr ARGLWYDD, a dynnodd efe ymaith o dalcen y tŷ, oddi rhwng yr allor a thŷ yr ARGLWYDD, ac a'i rhoddes hi o du gogledd yr allor.
15
A'r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddywedyd, Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol, a'r bwyd‐offrwm prynhawnol, poethoffrwm y brenin hefyd, a'i fwyd‐offrwm ef, a phoethoffrwm holl bobl y wlad, a'u bwyd‐offrwm hwynt, a'u diodydd‐offrwm hwynt; a holl waed y poethoffrwm, a holl waed yr aberth, a daenelli di arni hi: a bydded yr allor bres i mi i ymofyn.
16
Ac Ureia yr offeiriad a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai y brenin Ahas.
17
A'r brenin Ahas a dorrodd ddaliadau yr ystolion, ac a dynnodd ymaith y noe oddi arnynt hwy, ac a ddisgynnodd y môr oddi ar yr ychen pres oedd tano, ac a'i rhoddodd ar balmant cerrig.
18
A gorchudd y Saboth yr hwn a adeiladasant hwy yn tŷ, a dyfodfa'r brenin oddi allan, a drodd efe oddi wrth dŷ yr ARGLWYDD, o achos brenin Asyria.
19
A'r rhan arall o hanes Ahas, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
20
Ac Ahas a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd; a Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25