bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Kings 11
2 Kings 11
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 12 →
1
A phan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o'i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd yr holl had brenhinol.
2
Ond Joseba merch y brenin Joram, chwaer Ahaseia, a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a'i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd: a hwy a'i cuddiasant ef a'i famaeth yn ystafell y gwelyau, rhag Athaleia, fel na laddwyd ef.
3
Ac efe a fu gyda hi ynghudd yn nhŷ yr ARGLWYDD chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.
4
Ac yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Jehoiada, ac y cymerth dywysogion y cannoedd, a'r capteiniaid, a'r swyddogion, ac a'u dug hwynt i mewn ato i dŷ yr ARGLWYDD, ac a wnaeth â hwynt gyfamod, ac a wnaeth iddynt dyngu yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac a ddangosodd iddynt fab y brenin.
5
Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Dyma'r peth a wnewch chwi; Trydedd ran ohonoch sydd yn dyfod i mewn ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ y brenin:
6
A thrydedd ran fydd ym mhorth Sur: a thrydedd ran yn y porth o'r tu ôl i'r swyddogion: felly y cedwch wyliadwriaeth y tŷ rhag ei dorri.
7
A deuparth ohonoch oll sydd yn myned allan ar y Saboth, a gadwant wyliadwriaeth tŷ yr ARGLWYDD, ynghylch y brenin.
8
A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth, pob un â'i arfau yn ei law; a'r hwn a ddelo i'r rhesau, lladder ef: a byddwch gyda'r brenin pan elo efe allan, a phan ddelo efe i mewn.
9
A thywysogion y cannoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a chymerasant bawb eu gwŷr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda'r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth; ac a ddaethant at Jehoiada yr offeiriad.
10
A'r offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd waywffyn a tharianau y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD.
11
A'r swyddogion a safasant bob un â'i arfau yn ei law, o'r tu deau i'r tŷ, hyd y tu aswy i'r tŷ, wrth yr allor a'r tŷ, amgylch ogylch y brenin.
12
Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a'r dystiolaeth: a hwy a'i hurddasant ef yn frenin, ac a'i heneiniasant ef; curasant hefyd eu dwylo, a dywedasant, Byw fyddo'r brenin.
13
A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr ARGLWYDD.
14
A phan edrychodd hi, wele, y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer, a'r tywysogion a'r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn canu mewn utgyrn. Ac Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a waeddodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!
15
A Jehoiada yr offeiriad a orchmynnodd i dywysogion y cannoedd, y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi o'r tu allan i'r rhesau; a'r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â'r cleddyf: canys dywedasai yr offeiriad, Na ladder hi yn nhŷ yr ARGLWYDD.
16
A hwy a osodasant ddwylo arni hi, a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdwyd hi.
17
A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhwng yr ARGLWYDD a'r brenin a'r bobl, i fod ohonynt yn bobl i'r ARGLWYDD; a rhwng y brenin a'r bobl.
18
A holl bobl y wlad a aethant i dŷ Baal, ac a'i dinistriasant ef a'i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw, lladdasant hefyd Mattan offeiriad Baal o flaen yr allorau. A'r offeiriad a osododd oruchwylwyr ar dŷ yr ARGLWYDD.
19
Efe a gymerth hefyd dywysogion y cannoedd, a'r capteiniaid, a'r swyddogion, a holl bobl y wlad, a hwy a ddygasant i waered y brenin o dŷ yr ARGLWYDD, ac a ddaethant ar hyd ffordd porth y swyddogion, i dŷ y brenin: ac efe a eisteddodd ar orseddfa y brenhinoedd.
20
A holl bobl y wlad a lawenychasant, a'r ddinas a lonyddodd: a hwy a laddasant Athaleia â'r cleddyf wrth dŷ y brenin.
21
Mab saith mlwydd oedd Joas pan aeth efe yn frenin.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25